Quadrant, Abertawe

Canolfan Siopa'r Quadrant yw prif ganolfan siopa dan-do dinas Abertawe, Cymru. Fe'i hagorwyd yn wreiddiol ym 1978 ond ers hynny mae wedi derbyn nifer o wedd-newidiadau. Mae iddi dwy lawr, er bod yr ail lawr yn cynnig mynediad i siopau "Boots" a "Debenhams", yn ogystal â'r toiledau cyhoeddus, yn unig. Fe'i lleolir gyferbyn â Marchnad Abertawe a cheir mynediad mewnol o'r ganolfan i'r farchnad.

Mynediad Stryd yr Undeb i Ganolfan Siopa'r Quadrant

Siopau

golygu

Prif siopau'r ganolfan yw Debenhams, W H Smith a Boots. Mae'r siopau nodedig eraill yn cynnwys HMV, Clarks, Dorothy Perkins ac Oasis, ymysg eraill.

Perchnogaeth

golygu

Mae'r Quadrant a'r ardal gyfagos yn eiddo i gyngor Dinas a Sir Abertawe.

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Ddinas a Sir Abertawe. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato