Canwr, cyfansoddwr caneuon, a gitarydd Americanaidd oedd Robert Lee Burnside (23 Tachwedd 19261 Medi 2005).

R. L. Burnside
R. L. Burnside ar y llwyfan yn Ffair y Byd yn Knoxville, Tennessee (1982).
Ganwyd23 Tachwedd 1926 Edit this on Wikidata
Harmontown Edit this on Wikidata
Bu farw1 Medi 2005 Edit this on Wikidata
Memphis Edit this on Wikidata
Label recordioFat Possum Records Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Galwedigaethgitarydd, canwr Edit this on Wikidata
Arddully felan Edit this on Wikidata

Ganed ef yn Harmontown, Lafayette County, yn nhalaith Mississippi, i deulu o gyfrangnydwyr Affricanaidd-Americanaidd. Ni chafodd fawr o addysg, ac yn ifanc iawn aeth gyda'i rieni i gasglu cotwm ar y planhigfeydd mawr yn Nelta'r Mississippi. Yn niwedd y 1940au, ymunodd Burnside a nifer o'i berthnasau â'r Ymfudiad Mawr gan bobl dduon o daleithiau gwledig De'r Unol Daleithiau i'r dinasoedd ac ardaloedd diwydiannol yn y Gogledd a'r Gorllewin Canol. Symudodd i Chicago, Illinois, ac yno gwrandawodd ar Muddy Waters, un arall o Mississippi, yn canu'r felan. Fodd bynnag, amser truenus oedd hwn i'w deulu yn Chicago: llofruddiwyd ei dad, dau o'i frodyr, a'i ewythr i gyd mewn achosion ar wahân yn y ddinas. Dychwelodd i'w dalaith enedigol, a threuliodd y 1950au yn crwydro'r Delta, bryniau gogledd Mississippi, a Memphis, Tennessee. Yn y cyfnod hwn, saethodd Burnside yn farw ddyn a oedd yn ceisio'i fwrw oddi ar ei dir. Fe'i cafwyd yn euog o lofruddiaeth a'i carcharwyd ar fferm penyd Parchman yn Sunflower County. Wedi chwe mis, rhyddhawyd Burnside o'r carchar.[1]

Dysgodd sut i ganu'r gitâr, dan ddylanwad ei gymydog "Mississippi" Fred McDowell, ac arbenigodd mewn dull Gogledd Mississippi o felan wlad, a elwir hill country blues. Gweithiodd Burnside yn ffermwr tra'n canu ar y penwythnos, ac ym 1967 cafodd ei recordio gan George Mitchell, astudiwr llên gwerin o dalaith Georgia. Rhyddhawyd rhai o'r caneuon gan Arhoolie Records, a dechreuodd gwyliau cerddorol hurio Burnside i berfformio ar y llwyfan. Parhaodd i ganu am fwy nag ugain mlynedd, ond yn anaml y byddai'n perfformio y tu hwnt i ffiniau Mississippi.

Ym 1991, cafodd ei gyfle fawr yn sgil arwyddo contract â'r label recordio Fat Possum, a gychwynwyd gan fyfyriwr o Brifysgol Mississippi o'r enw Matthew Johnson, gyda chymorth yr awdur Robert Palmer. Ceisiodd Fat Possum farchnata albymau Burnside at yr ieuenctid, gan bwysleisio cyffelybrwydd sain arw y felan i gerddoriaeth pync-roc. Daeth yn boblogaidd ymhlith nifer o bobl ifanc am ffraethineb ac agwedd lom ei ganeuon, ac ymddangosodd yn y ffilm ddogfen Deep Blues (1991)—a sgriptiwyd gan Palmer—am sîn y felan yng ngogledd Mississippi a Memphis. Perfformiodd ar draws yr Unol Daleithiau, Ewrop, a Japan, a chyd-recordiodd ei seithfed albwm, A Ass Pocket of Whiskey (1996), gyda'r Jon Spencer Blues Explosion. Rhoes y gorau i berfformio ar daith ym 1999, oherwydd ei iechyd, a rhyddhawyd ei albwm stiwdio olaf, A Bothered Mind, yn 2004. Bu farw R. L. Burnside ym Memphis, Tennessee, yn 78 oed. Cafodd 12 o blant.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Garth Cartwright, "Obituary: RL Burnside", The Guardian (5 Medi 2005). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 17 Medi 2015.