RAF y Fali

(Ailgyfeiriad o RAF Valley)

Gorsaf a maes awyr yn perthyn i'r Llu Awyr Brenhinol yng ngogledd-orllewin Ynys Môn yw RAF y Fali neu Llu Awyr Brenhinol y Fali (Saesneg: RAF Valley). Cymer ei enw o Y Fali gerllaw.

RAF y Fali
Mathgorsaf Llu Awyr Brenhinol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.2481°N 4.5353°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganyr Awyrlu Brenhinol Edit this on Wikidata
Map
Perchnogaethy Weinyddiaeth Amddiffyn Edit this on Wikidata
Awyren Hawk yn RAF y Fali

Adeiladwyd RAF y Fali yn 1941, ac yn ystod y gwaith adeiladu, cafwyd hyd i gasgliad pwysig o arfau a chelfi o Oes yr Haearn yn llyn Cerrig Bach gerllaw. Prif swyddogaeth yr orsaf yw hyfforddi awyrennwyr i ddefnyddio awyrennau jet cyflym, gan ddefnyddio jetiau BAE Hawk. Mae hefyd adran o hofrennyddion Sea King, sy'n cael eu defnyddio i roi gwasanaeth achub o longau ym Môr Iwerddon ac o fynyddoedd Eryri.

Mae maes awyr sifil Maes Awyr Môn gerllaw yn dal i berthyn i'r RAF ac mae RAF y Fali yn gyfrifol am reoli traffig awyr yno o hyd.

Cyfeiriadau golygu