Agor y brif ddewislen

Y Fali

pentref a chymuned yng ngorllewin Ynys Môn

Mae'r Fali (Saesneg: Valley) yn bentref a chymuned yng ngorllewin Ynys Môn, ar yr A5 yn agos at Ynys Cybi. Mae gan y pentref orsaf ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru (lle dim ond ar gais mae trenau'n stopio).

Y Fali
Water flowing through the gate in the Four Mile Bridge - geograph.org.uk - 817510.jpg
Math Pentref, Cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Ynys Môn Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 53.284°N 4.562°W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000040 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au
AS/au

EnwGolygu

Mae peth drafodaeth wedi bod ynglyn â tharddiad yr enw. Yn ôl rhai, mae'r gwraidd yn y Gwyddeleg Baile, anheddiad, yn hytrach na'r gair Saesneg, Valley. Dywed Gwilym T. Jones a Tomos Roberts [1] fel arall, sef bod y gair yn dod o'r amser pan gloddiwyd pant er mwyn cael rwbel i adeiladu Pont Lasinwen, neu Morglawdd Stanley, rhan o'r A5 presennol. Roedd y pant a ffurfiwyd wedi cael yr enw Valley, a drosglwyddwyd i'r pentref.

 
Hen adeilad newid sgignalau.

Defnyddir y ffurf (Y) Dyffryn yn ogystal ag Y Fali heddiw.

RAF y FaliGolygu

Prif erthygl: RAF y Fali

Yn agos i'r pentref mae gorsaf yr Awyrlu, RAF y Fali: yno y lleolir Maes Awyr Môn hefyd. Wrth adeiladu maes awyr yr Awyrlu yn 1942, cafwyd hyd i gasgliad pwysig o gelfi o Oes yr Haearn yn Llyn Cerrig Bach gerllaw.

Cyfrifiad 2011Golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Y Fali (pob oed) (2,361)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Y Fali) (1,253)
  
54.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Y Fali) (1523)
  
64.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Y Fali) (433)
  
42.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

CyfeiriadauGolygu

  1. Enwau Lleoedd Môn 1996, Cyngor Sir Ynys Môn ISBN 0-904567-71-0
  2. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  3. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  4. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.

Dolen allanolGolygu

Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: