Melin drafod a sefydliad ymchwil yn Unol Daleithiau America yw'r RAND Corporation sydd yn ymwneud â pholisi cyhoeddus.

RAND Corporation
Enghraifft o'r canlynolmelin drafod, sefydliad di-elw Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu14 Mai 1948 Edit this on Wikidata
SylfaenyddHenry H. Arnold, Donald Wills Douglas, Sr., Curtis LeMay Edit this on Wikidata
RhagflaenyddDouglas, Awyrlu'r Unol Daleithiau Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolORCID, Association of American University Presses Edit this on Wikidata
Gweithwyr1,850 Edit this on Wikidata
Isgwmni/auRAND Corporation, RAND Corporation Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithiolsefydliad 501(c)(3) Edit this on Wikidata
PencadlysSanta Monica Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.rand.org/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Datblygodd y RAND Corporation o brosiect ymchwil a datblygiad a ffurfiwyd gan gwmni awyrennau Douglas, yn Santa Monica, Califfornia, ar gyfer Lluoedd Awyr Byddin yr Unol Daleithiau ym 1945. Talfyriad o'r geiriau research and development yw RAND. Sefydlwyd yn gorfforaeth ddi-elw ar wahân ym 1948 a oedd yn canolbwyntio ar faterion diogelwch cenedlaethol. Yn y 1960au ymestynnodd ei faes ymchwil i gynnwys materion mewnwladol.[1]

Mae RAND yn cyflogi cannoedd o ysgolheigion ac ymchwilwyr mewn nifer o wahanol ddisgyblaethau. Mae'n derbyn ei arian o gontractau â'r llywodraeth, elusennau, corfforaethau preifat, ac enillion ar ei waddoliad. Lleolir ei bencadlys yn Santa Monica, a mae ganddo swyddfeydd hefyd yn Washington, D.C., Dinas Efrog Newydd, Pittsburgh, Boston, New Orleans, Ridgeland, Mississippi, ac ambell ddinas dramor. Gyda chwmni Blackwell mae'n cyhoeddi cyfnodolyn chwarterol, y RAND Journal of Economics.[1]

Pencadlys y RAND Corporation yn Santa Monica, Califfornia

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 (Saesneg) RAND Corporation. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 21 Mehefin 2021.

Dolenni allanol

golygu