Raúl Prebisch
Economegydd a gwleidydd o'r Ariannin oedd Raúl Prebisch (17 Ebrill 1901 – 29 Ebrill 1986) sydd yn nodedig am ei gyfraniadau at economeg adeileddol ac am arloesi damcaniaeth ddibyniaeth. Gwasanaethodd mewn sawl swydd ym mydoedd llywodraeth ac addysg, a bu'n cynghori gwledydd datblygol sut i hybu gweithgynhyrchu ac i leihau dibyniaeth ar fewnforion.[1]
Raúl Prebisch | |
---|---|
Raúl Prebisch ym 1954 | |
Ganwyd | 17 Ebrill 1901 San Miguel de Tucumán |
Bu farw | 29 Ebrill 1986, 15 Ebrill 1986 o trawiad ar y galon Santiago de Chile |
Dinasyddiaeth | yr Ariannin |
Alma mater | |
Galwedigaeth | economegydd, gwleidydd |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Gwobr Jawaharlal Nehru am Ddeallusrwydd Rhyngwladol, Medal Anrhydedd Dag Hammarskjold, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Madrid, Uwch Groes Urdd Haul Periw |
Bywgraffiad
golyguGaned Raúl Prebisch ar 17 Ebrill 1901 yn San Miguel de Tucumán, Talaith Tucumán, yng ngogledd yr Ariannin. Astudiodd economeg ym Mhrifysgol Buenos Aires. Wedi iddo raddio, ymunodd â chyfadran economeg y brifysgol a bu'n athro economi wleidyddol o 1925 i 1948. Gwasanaethodd yn swydd dirprwy gyfarwyddwr Adran Ystadegau'r Ariannin o 1925 i 1927, yn gyfarwyddwr dros ymchwil economaidd ym Manc Cenedlaethol yr Ariannin o 1927 i 1930, yn is-ysgrifennydd cyllid o 1930 i 1932, ac yn cyfarwyddwr cyffredinol cyntaf Banc Canolog yr Ariannin o 1935 i 1948.[2]
Yn 1948 ymunodd â Chomisiwn Economaidd y Cenhedloedd Unedig dros America Ladin, a fe'i benodwyd yn ysgrifennydd gweithredol. Daliodd y swydd honno hyd 1963. Gwasanaethodd yn ysgrifennydd cyffredinol Cynhadledd Masnach a Datblygiad y Cenhedloedd Unedig o 1965 i 1969. Wedi 1969, bu'n gyfarwyddwr cyffredinol Sefydliad Cynllunio Economaidd a Chymdeithasol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer America Ladin.[2]
Bu farw yn Las Verientes ger Santiago de Chile,[1] o drawiad ar y galon, yn 85 oed.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Raúl Prebisch. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 11 Ionawr 2020.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) "Raúl Prebisch" yn Encyclopedia of World Biography. Adalwyd ar 11 Ionawr 2020.