Damcaniaeth dibyniaeth

(Ailgyfeiriad o Damcaniaeth ddibyniaeth)

Dull o astudio a deall diffyg datblygu economaidd yw damcaniaeth dibyniaeth sydd yn pwysleisio'r cyfyngiadau a orfodir ar wledydd datblygol gan y drefn wleidyddol ac economaidd fyd-eang. Mae'r ddamcaniaeth hon yn ceisio egluro'r rhesymau am ddyfalbarhad y rhaniad Gogledd-De drwy dybio bod adnoddau yn symud o wledydd tlawd yr ymylon (neu'r perifferi) i wledydd cyfoethog y graidd, ac hynny ar draul y byd datblygol. Fe'i cysylltir yn aml â'r traddodiad Marcsaidd, ond mae ysgolheigion o sawl ysgol feddwl arall yn namcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol wedi defnyddio'r fath syniadau i ymdrin ag economeg datblygu. Arloeswyd damcaniaeth dibyniaeth yn y 1950au gan yr economegydd Archentaidd Raúl Prebisch (1901–86). Ymhlith y meddylwyr eraill yn y maes hwn mae André Gunder Frank (1929–2005) ac Immanuel Wallerstein (1930–2019).[1]

Yn ôl damcaniaeth dibyniaeth, achosir tanddatblygiad yn bennaf gan safle ymylol y gwledydd datblygol yn yr economi fyd-eang. Fel arfer, mae gwledydd datblygol yn cynnig llafur ac adnoddau crai am brisiau rhad yn y farchnad fyd-eang, a gwerthir yr adnoddau hyn i wledydd datblygedig er mwyn cynhyrchu nwyddau gorffenedig. Mae'n rhaid i gwsmeriaid a chwmnïau yn y gwledydd datblygol brynu'r nwyddau hynny am brisiau uchel, gan ddihysbyddu'r cyfalaf sydd ganddynt.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Peter Lamb a Fiona Robertson-Snape, Historical Dictionary of International Relations (Lanham, Maryland: Rowman & Littlefield, 2017), t. 202.
  2. (Saesneg) dependency theory. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 11 Ionawr 2019.