Radur
un o faestrefi Caerdydd
Ardal yng Nghaerdydd yw Radur (Seisnigiad: Radyr). Mae'n rhan o gymuned Radur a Threforgan.
Math | dosbarth |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Dinas a Sir Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.51°N 3.26°W |
Cod OS | ST132802 |
AS/au | Alex Barros-Curtis (Llafur) |
- Am y pentrefan o'r un enw yn Sir Fynwy, gweler Radur, Sir Fynwy.
Er ei bod yn un o faesdrefi Caerdydd heddiw, yn y gorffennol bu'n ardal ar wahân. Yma ar droad yr 16g safai plasdy Syr Wiliam Mathau, un o Fatheuaid Llandaf, fu'n gasglwr llawysgrifau a noddwr i feirdd Morgannwg, yn cynnwys y clerwr Lang Lewys (bl. 1480-1520).
Tua kilometr i'r gogledd saif hen domen o'r Oesoedd Canol, sef Castell Morgan.
Dolenni allanol
golygu- Tudalen Cyngor Cymunedol Radur[dolen farw] ar wefan Cyngor Dinas Caerdydd