Gŵyl pedwar niwrnod ydy Raja Parba (Raja Parba, Mithuna Sankrant neu Mithuna Sankranti (Oriya: ରଜ ପର୍ବ), ble mae'r ail ddiwrnod yn dynodi dechrau'r mis (solar) Mithuna, sef 'mis y glaw'. Yn amaethyddol, felly, mae'n ddechrau blwyddyn newydd ar hyd a lled Odisha, India ac yn ddelweddol, mae'n ymwneud â diferion a gwlybaniaeth yn llygad yr haul a chawodydd cyntaf y monsŵn, yng nghanol Gorffennaf, gan baratoi'r pridd ar gyfer blwyddyn newydd o hau a medi.[1]

Eilunod 'bhudevi' a 'shridevi'.

Credir fod y Fam Ddaear neu wraig dwyfol Arglwydd Vishnu yn cychwyn ar ei gwaedlif am dridiau cynta'r ŵyl. Baddon seremoniol yw'r 4ydd diwrnod a elwir yn Vasumati gadhua. Daw'r term 'Raja' o 'Rajaswala' sy'n golygu 'merch yn ei misglwyf'. Yn ystod yr Oesoedd Canol, roedd yr ŵyl yn canolbwytio ar addoli Bhudevi, gwraig yr Arglwydd Jagannath, ac mae elfen o hyn yn dal i fodoli heddiw.

Merched mewn gwisgoedd traddodiadol yn dathlu'r ŵyl.

Yn ystod y tridiau hyn, mae menywod yn cael seibiant o waith tŷ, a chânt amser i chwarae gemau y tu fewn, neu ar sigleni y tu allan. Mae'r gwragedd hŷn, yn aml, yn chwarae cardiau neu gemau bwrdd. Mae'r merched ifanc yn addurno eu hunain yn ogystal a'i gilydd, gyda'r ffasiwn diweddaraf neu yn draddodiadol, gyda'r Saree (gwisg liwgar o Dde Asia) ac Alatha am eu traed. Am y cyfnod hwn maen nhw'n atal rhag cerdded yn droednoeth ar wyneb y ddaear. Gwneir math o fara o'r enw 'pitha' (Odia: ପିଠା) - y ddau fath mwyaf poblogaidd yw'r Podopitha a'r Chakuli. Mae'r dynion hefyd yn dathlu, gan chwarae 'Kabbadi', gêm draddodiadol Bangladesh a thaleithiau India, gan gynnwys Odisha.

Cenir y gân werin ganlynol gan bobl o bob oed:

(Banaste dakila Gaja,barasake thare aasichhi Raja, asichi raja lo gheni nua sajabaja' (Cyfieithiad: mae carnifal Raja wedi cyrraedd, gyda'r rhwysg a'r mwynhad a geir gyda phethau newydd)

(Pana khia Rasika Pati, khoji buluthila Rajanka hati, dhali deigala sirare, raja hoigale rajare (Cyfieithiad: mae'r dynion dymunol yn cnoi betel, a gwyn ei fyd... ac yma ac acw mae'r eliffant yn cerdded.)

Raja Doli o ardal Kendujhar

Cyfeiriadau

golygu