Ralïo (rhaglen deledu)

Rhaglen deledu sy'n dilyn nifer o ralïau'r byd, gan gynnwys Rali Cymru GB a Phencampwrieth Ralïo'r Byd yw Ralïo. Cynhyrchir y rhaglen gan gwmni P.O.P. 1 o Lanelli, darlledwyd am y tro cyntaf yn 2004.[1] Cyflwynwyr rheolaidd y sioe yw Emyr Penlan a Lowri Morgan.

Darlledwyd y 50fed rhaglen ym mis Tachwedd 2007, gyda darllediad Rownd Derfynol Pencampwriaeth Ralïo'r Byd. Dathlwyd y pen-blwydd aur gyda bwletinau dyddiol am y tro cyntaf, yn cael eu darlledu gyda'r nos o'r cymalau yng nghoedwigoedd de, canol a gorllewin Cymru.[2]

Disgrifiwyd Motorsport News ef fel y rhaglen ralïo orau yn y byd.[2]

Ffynonellau golygu

  1.  S4C YN ENNILL HAWLIAU PENCAMPWRIAETH RALÏO’R BYD. S4C (23 Medi 2004).
  2. 2.0 2.1  Ralio heads for milestone at Wales Rally GB. Wheels Within Wales (Tachwedd 2007).

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am deledu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato