Rana Dajani
Biolegydd moleciwlaidd o Wlad Iorddonen yw Rana Dajani sydd hefyd yn athro yn y Brifysgol Hasimaidd, Zarca.[1][2]
Rana Dajani | |
---|---|
Ganwyd | 20 g Dhahran |
Dinasyddiaeth | Gwlad Iorddonen |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | biolegydd ym maes molecwlau, ymchwilydd |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Ysgoloriaethau Fulbright, Fellow of the International Science Council |
Enillodd Dajani Ph.D. mewn bioleg foleciwlaidd yn 2005 o Brifysgol Iowa. Mae ganddi gymrodoriaeth yn Sefydliad Radcliffe ar gyfer Astudiaeth Uwch ym Mhrifysgol Harvard, ac mae ganddi Gymrodoriaeth Eisenhower.[3][4][5][6] Mae Dr Dajani hefyd yn gyn-fyfyriwr ysgoloriaeth Fulbright, ar ôl derbyn dwy wobr gan Fulbright. Mae'n gyn athro gwadd Iâl yng nghanolfan bôn-gelloedd Iâl ac yn ysgolhaig gwâdd ym Mhrifysgol Caergrawnt a'r Ganolfan Therapi Bôn-gelloedd yng Ngwlad Iorddonen. [7][8]
Yn ôl y cylchgrawn dylanwadol Muslim Science Magazine Rana Dajani yw'r 13eg menyw yn y byd Islamaidd ac yn ôl CEO Middle East Magazine hi yw "un o'r menywod Arabaidd mwyaf Pwerus ar y Ddaear".[9]
Anrhydeddau
golyguYn 2015 cyflwynwyd Dajani i Neuadd Enwogion Menywod mewn Gwyddoniaeth (the Women in Science Hall of Fame) a hynny gan Lysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yn yr Iorddonen.[9][10] Roedd yr anrhydedd hwn yn gydnabyddiaeth o'i gwaith a'i damcaniaethau ar esblygiad biolegol ac Islam, gan ganolbwyntio ar ymchwil ar draws y genomau ar ddiabetes, canser a bôn-gelloedd.[11]
Bu'n allweddol o ran sefydlu termau'r gyfraith ar gyfer defnyddio therapi bôn-gelloedd yn yr Iorddonen, ac yn bont rhwng crefydd a gwyddoniaeth fel y gellid rheoleiddio'n gyfreithiol yn y byd Arabaidd ac Islamaidd.[9]
Hyrwyddo hawliau merched
golyguMae Dajani yn eiriolwr dros wyddoniaeth i fenywod, yn ogystal ag ar gyfer damcaniaeth esblygiad biolegol mewn perthynas ag Islam. Sefydlodd a chyfarwyddodd y rhaglen "Ein Cariad at Ddarllen", prosiect sy'n hyrwyddo llythrennedd plant ar hyd a lled 30 o wledydd.[10]
Fe wnaeth "Ein Cariad at Ddarllen" fentora a hyfforddi 730 o fenywod yn y technegau adrodd-straeon ac yn 2017 enillodd Wobr Llythrennedd King Sejong UNESCO. Arweiniodd canlyniad hyn at sefydlu 330 o lyfrgelloedd ledled yr Iorddonen, gan gyfoethogi llythrennedd dros 10,000 o blant, 60% ohonynt yn fenywod.
Anrhydeddau
golygu- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Ysgoloriaethau Fulbright, Fellow of the International Science Council[12] .
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Rana. B. MR. Al-Dajani Archifwyd 2016-09-11 yn y Peiriant Wayback, y Brifysgol Hasimaidd, adalwyd 2 Awst 2017.
- ↑ Man geni: https://welovereading.org/wp-content/uploads/2020/07/Rana_Dajani_Resume_leader_-July2020.pdf.
- ↑ "Rana Dajani". Radcliffe Institute for Advanced Study at Harvard University (yn Saesneg). 2017-03-30. Cyrchwyd 2018-03-26.
- ↑ "Eisenhower Fellows website". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-06-12. Cyrchwyd 2019-04-18.
- ↑ Yale News, First Person: A Fulbrighter at Yale.
- ↑ "Jordanian Fulbright Alumna Receives Global Changemaker Award". Amidest. America-MidEast Educational and Training Services. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-12-25. Cyrchwyd 8 Awst 2017.
- ↑ Anrhydeddau: https://council.science/current/blog/isc-appoints-100-new-fellows/.
- ↑ Dajani, Rana (2014-06-12). "Jordan’s stem-cell law can guide the Middle East" (yn en). Nature 510 (7504): 189–189. doi:10.1038/510189a. http://www.nature.com/news/jordan-s-stem-cell-law-can-guide-the-middle-east-1.15385.
- ↑ 9.0 9.1 9.2 "Embassy Amman honors Dr. Rana Dajani Associate Professor Molecular Cell Biology at the Hashemite University". U. S. Embassy in Jordan. Cyrchwyd 5 Awst 2017.
- ↑ 10.0 10.1 "Rana Dajani We Love to Read, Jordan Founder and Director". Dart Center for Journalism & Trauma. Cyrchwyd 4 Awst 2017.
- ↑ Clark, Kelly James (2014). Religion and the Sciences of Origins: Historical and Contemporary Discussions. Springer. ISBN 9781137414816. Cyrchwyd 8 Awst 2017.
- ↑ https://council.science/current/blog/isc-appoints-100-new-fellows/.