Llythrennedd
Llythrennedd yw'r gallu i ddarllen ac ysgrifennu. Mae canrannau llythrennedd yn amrywio'n fawr o wlad i wlad ac yn cael ei gyfrif fel un o'r mynegeion datblygu gan gyrff fel UNESCO, er enghraifft yr Indecs Datblygiad Dynol; mewn gwledydd cyfoethog mae bron pawb yn meddu ar lythrennedd tra bod lefelau llythrennedd mor isel â 10-15% mewn rhai gwledydd tlawd, yn bennaf yn yr Affrica is-Saharaidd. Yn y gorffennol ychydig iawn o bobl oedd yn medru darllen ac ysgrifennu, a'r rhan fwyaf yn perthyn i'r dosbarthiadau breintiedig neu'n offeiriaid. Erbyn heddiw mae bod yn anllythrennog yn anfantais fawr yn y byd ac yn debyg o gadw pobl mewn tlodi.
Arolwg o lythrennedd yn y gorffennol
golyguYn y gorffennol roedd India a Tsieina yn mwynhau lefelau cymharol uchel o lythrennedd. Roedd prifysgolion fel yr un Fwdhaidd enwog yn Nalanda, gogledd India, yn addysgu disgyblion o bob rhan o Asia gyda phobl yn barod i deithio ymhell er mwyn cael addysg.
Mae lefel uchel y graffiti a geir mewn safleoedd Rhufeinig hynafol fel Pompeii, yn awgrymu fod nifer sylweddol yn meddu ar ryw lefel o lythrennedd.
Oherwydd ei phwyslais ar ddarllen y Coran gan unigolion yn yr Arabeg wreiddiol, mae nifer o wledydd Islamaidd wedi mwynhau lefelau uchel o lythrennedd ers deuddeg ganrif neu ragor. Yn ôl y gyfraith Islamaidd (Fatwa), mae gallu darllen y Coran yn cael ei ystyried yn ddyletswydd grefyddol.
Yn yr Oesoedd Canol roedd lefelau llythrennedd ymysg Iddewon Ewrop yn uwch nag yn y cymunedau Cristnogol. Roedd y rhan fwyaf o Iddewon gwrywaidd yn medru darllen ac ysgrifennu Hebraeg. Mae Iddewiaeth yn rhoi pwyslais mawr ar astudio'r testunau sanctaidd, fel y Tanakh a'r Talmud.
Yn Lloegr Newydd, roedd canran llythrennedd ymysg yr ymsefydlwyr Ewropeaidd dros 50% yn hanner cyntaf yr 17g, gan godi i dros 70% erbyn 1710. Erbyn amser y Chwyldro Americanaidd, roed wedi cyrraedd tua 90%. Mae'n debyg fod hyn yn ganlyniad i bwyslais y Piwritaniaid ar ddarllen y Beibl yn Saesneg.
Yng Nghymru, saethodd y lefel llythrennedd i fyny yn y 18g, pan ddechreuodd Griffith Jones redeg ei ysgolion cylchynol, gyda'r bwriad o gael pawb o'r werin i fedru darllen y Beibl yn Gymraeg. Mae'n bur debyg fod gan Gymru'r lefel uchaf o lythrennedd yn y byd yn 1750, a hynny er gwaethaf y ffaith fod yr ysgolion swyddogol yn uniaith Saesneg.
Anllythrennedd heddiw
golyguMae nifer o gyrff ac unigolion wedi lleisio eu consyrn am lefelau anllythrennedd ym mhoblogaeth y byd, er gwaethaf y ffaith fod canrannau llythrennedd wedi codi'n gyson dros y degawdau diwethaf, yn arbennig yn y trydydd fyd. Eithriad i'r drefn arferol oedd y gwledydd hynny yn y trydydd fyd a ddilynai ideoleg Farcsaidd (Gweriniaeth Pobl Tsieina, Cuba, a Fietnam, er enghraifft), a brofasant dyfiant ymhlith y mwyaf syfrdanol yn hanes y byd, gan agosáu at y lefelau a geir yng Nghanada ac Ewrop (ers degawdau mae lefel llythrennedd Cuba yn uwch na'r lefel yn yr Unol Daleithiau). Yn ôl diffiniad y Cenhedloedd Unedig o anllythrennedd fel "bod heb fedru darllen neu ysgrifennu brawddeg elfennol mewn unrhyw iaith," roedd 20% o boblogaeth y byd yn anllythrennog ym 1998, gyda'r mwyafrif ohonynt yn byw yn Affrica islaw'r Sahara a rhannau o Asia.