Range Rover
Cerbyd defnyddiol math SUV (Sport utility vehicle ) yw Range Rover a gynhyrchir gan gwmni Land Rover. Dyma brif gerbyd y cwmni. Perchennog Land Rover yw Tata Motors, cwmni rhyngwladol sydd a'i bencadlys yn India. Lansiwyd y Range Rover cyntaf yn 1970 ac yn 2016 roedd yn ei bedwaredd cenhedlaeth. Ceir sawl math hefyd gan gynnwys y Range Rover Evoque a'r Range Rover Sport.
Enghraifft o'r canlynol | cyfres o foduron |
---|---|
Math | sport utility vehicle |
Yn cynnwys | Land Rover Range Rover (1st generation), Land Rover Range Rover (P38A), Land Rover Range Rover (L322), Land Rover Range Rover (L405) |
Gwneuthurwr | Land Rover |
Gwefan | https://www.landrover.com/vehicles/range-rover/index.html |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Hanes
golyguBu'r cwmni Rover Company (rhagflaenydd y marque Land Rover) yn arbrofi gyda model llawer mwy na'r un a ddaeth allan yn 1951 dan lygad barcud Gordon Bashford a chredwyd cerbyd arbrofol: y Rover P4 a oedd yn gerbyd gyriant 2-olwyn. Ond rhoddwyd y model yma ar y silff a chysgwyd ar y syniad am wyth mlynedd nes y dychwelodd Charles Spencer King a Bashford yn ôl at y prosiect hwn a chrewyd model newydd sbon.[1]
Yn 1967 crewyd y prototeip cyntaf (rhif cerbyd: SYE 157F), ac roedd siâp sgwâr amlwg yn gwbwl nodweddiadol o'r Range Rover hwnnw, ond fod y gril (neu'r gridyll) ar y tu blaen a'r goleuadau'n gwbwl wahanol. Gorffenwyd cynllunio'r Range Rover cyntaf yn 1969. Profwyd 27 o gerbydau arbrofol rhwng 1969 ac 1970.[2]
Cenhedlaeth 1 (1970–1996) |
Cenhedlaeth 2 |
Cenhedlaeth 3 |
Cenhedlaeth 4 | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
|
|
|
Mathau cyfredol
golyguRange Rover Sport
golyguLansiwyd ffotograffau o'r Range Rover Sport, am y tro cyntaf ar 26 Tachwedd 2004, a gwelwyd y fersiwn derfynol am y tro cyntaf yn Sioe Gerbydau Gogledd America yn 2005. Mae wedi'i seilio ar y Discovery "L320" gyda'r tu allan a'r seddi wedi'i modelu ar y Range Rover; galwyd ef yn gyntaf yn Range Rover Sport "L319". Roedd yr echel yn llai na'r Discovery ac roedd y gist yn dal llai o lwyth. Roedd y pris yn nes at y Discovery na'r Land Rover. Gwerthwyd ef yn gyntaf yn 2006.
Range Rover Evoque
golyguLlithrodd y Range Rover Evoque allan drwy ddrws y ffatri am y tro cyntaf yng Ngorffennaf 2011. Mae gwreiddiau'r cerbyd yma yn y car cysyniadol, y Land Rover LRX, na werthwyd yn fasnachol, ac mae'n hynod o debyg iddo. Mae ar gael gyda thri neu bum-drws fel hatchback a cheir fersiwn gyriant blaen neu yriant 4-olwyn, 2-litr petrol turbocharged a dwy fersiwn injan 2.2-litr turbo-diesel.
Yn 2012 gwerthwyd fersiwn to agored, gyda 4 sedd ac adail-ôl a oedd yn llithro i'w lle.[6]
Range Rover Velar
golyguDadorchuddiwyd y Velar ym Mawrth 2017, ac roedd ar werth am tua £65,000: fe'i targedwyd rhwng yr Evoque a'r Sport. Mae'n defnyddio'r un llwyfan a'r Jaguar F-Pace, a ddefnyddiwyd fel model ar gyfer y cynllun. Mae ymhlith y byraf o'r teulu, o ran taldra, gyda'r llinellau allanol yn llyfn a chwareus. Mae'r tu fewn yn hollol newydd, yn llawn technoleg electronig newydd, a bydd yn cael ei ail-greu ym mhob Range Rover a ddaw allan o'r ffatri o hyn ymlaen.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Maag, Christopher (3 Gorffennaf 2010). "Charles S. King, Range Rover Designer, Dies at 85". The New York Times. Cyrchwyd 23 Chwefror 2016.
- ↑ Shephard, Dave. "The History of the Range Rover Marque". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Mawrth 2006. Cyrchwyd 30 Mawrth2016. Check date values in:
|accessdate=
(help) - ↑ "Range Rover: Birthday Child with new Transmission Technology". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Ionawr 2011. Cyrchwyd 24 Awst 2010. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "Range Rover Mk4". Auto Express. Retrieved 1 Ionawr 2013.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 5.3 5.4 "Range_Specifications". Land Rover. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-10-01. Cyrchwyd 2016-11-20.
- ↑ Hardy, Sam (6 Mawrth 2012). "Range Rover Evoque Convertible". Auto Express. Cyrchwyd 23 Gorffennaf 2012.