Peiriant ydy injan a gynlluniwyd er mwyn trawsnewid un math o ynni yn ynni mecanyddol, symudol. Mae'r injan, fel arfer, yn llosgi tanwydd er mwyn creu gwres, sydd yn ei dro'n creu grym symudol. Mae'r motor trydan yn fath o injan yn yr ystyr ei fod yn trawsnewid ynni trydanol yn symudiad mecanyddol. Gellir dweud, felly, fod y tegan a weindir ei sbring yn fath o injan, gan fod un math o ynni'n cael ei drawsnewid yn fath arall. Felly hefyd, mewn bioleg, gellir dweud mai injan ar ryw ystyr ydyw'r miosin yn y cyhyrau sy'n defnyddio ynni cemegol i greu egni, ac yna symudiad.

Peiriant tanio mewnol V6 o gar Mercedes.
Injan Boulton & Watt; 1788
Animeiddiad o'r injan 4-stroc:
1. Mewnsugnad (tanwydd i fewn)
2. Cywasgiad
3. Tanio (llosgir y tanwydd)
4. Allyrru (exhaust)

Yn y Gymraeg, fodd bynnag, mae'r gair 'injan' fel arfer yn cyfeirio at fath arbennig o beiriant sy'n defnyddio tanwydd i greu symudiad e.e. injan car, injan stêm, injan ddyrnu neu injan wnïo. Cofnodwyd y gair am y tro cyntaf yn 1757 fel bathiad amrwd o'r Saesneg gan rai o deulu Morysiaid Môn: engine ddŵr ag engine wynt ac yna gan Wiliam Williams, Pantycelyn yn 1762-79 (P 321): Hwy a oddefasant y Rhufeiniaid i osod i fynu eu hengins ar ddydd Sabbath. Ar y llaw arall, gair modern iawn ydy motor neu 'fodur' na fathwyd tan 1909.[1] Gellir dweud fod 'injan' a 'motor' yn ddau 'beiriant'. Mae'r gair 'injan' yn tarddu o'r Lladin ingenium.

Y Chwyldro Diwydiannol golygu

Injan stêm James Watt oedd un o'r peiriannau cyntaf i ddefnyddio stêm (neu "ager|") ychydig uwch na gwasgedd atmosfferig i yrru piston, mewn gwactod rhanol. Datblygodd Watt yr injan rhwng 1763 AC 1775 a defnyddiwyd ei gynllun gan lawer o ddyfeiswyr ar ei ôl. Fe'i defnyddiwyd gan ffatrioedd ac yna ar reilffyrdd. Dyma fan cychwyn yr injan.

Ychydig wedyn, yn 1807, yn Ffrainc datblygwyd y peiriant tanio mewnol gan ddyn o'r enw 'de Rivaz' ac erbyn 1853-57 dyfeisiwyd a chofrestrwyd breinlen (neu 'batent') gan Eugenio Barsanti a Felice Matteucci yr injan 4-cylch.

Ceir golygu

Karl Benz a greodd y car masnachol llwyddiannus cyntaf, a daeth creu injan ysgafn, cyflym yn dipyn o her! Defnyddiwyd injans 4-stroc Otto ar gyfer injans petrol ceir gan fwyaf ac injans disl, hynod o ddarbodus o ran milltiroedd-y-galwyn, ar gyfer faniau, bysiau a loriau.

Yn 1896 cofrestrodd Karl Benz freinlen ar ei gynllun o injan gyda'r pistonau wedi'u gosod yn llorwedd. Dyma'r math a oedd yn gyrru'r Volkswagen Beetle tan yn ddiweddar - a rhai ceir Porsche, Subaru ac awyrennau.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. geiriadur.ac.uk Geiriadur Prifysgol Cymru Arlein (GPC);] adalwyd 25 Mawrth 2016