Marathon (ras)
Ras redeg hirbell yw marathon gyda phellter o 42.195 km (26 milltir a 385 llath)[1] ac sydd fel arfer yn cael ei rhedeg ar dir caled. Caiff y ras ei henwi ar ôl y Groegwr Pheidippides a oedd, yn ôl y chwedl, yn negeswr ym Mrwydr Marathon yn 490 CC ac a redodd yr holl ffordd i Athen.
Enghraifft o'r canlynol | disgyblaeth chwaraeon |
---|---|
Math | ras, long-distance running |
Hanes
golyguTarddiad
golyguDaw'r enw "marathon" o chwedl Pheidippides, negesydd Groegaidd. Yn ôl y chwedl, cafodd ei ddanfon o faes y gad Brwydr Marathon i Athen er mwyn cyhoeddi fod y Persiaiaid wedi'u trechu yn Mrwydr Marathon (lle y bu'n ymladd), a gynhaliwyd yn Awst neu Fedi, 490 BC. Dywedir iddo redeg yr holl daith heb stopio unwaith, gan fynd i mewn i'r neuadd gan gyhoeddi νενικήκαμεν (nenikekamen, "rydym wedi ennill"), cyn syrthio'n farw. Ymddengys yr hanes am y daith o Marathon i Athen am y tro cyntaf ym Moralia gan Plutarch yn y ganrif gyntaf OC, a dyfynna un o weithiau coll Heraclides Ponticus, sy'n rhoi'r enwau Thersipus o Erchius neu Eucles i'r rhedwr. Adrodda Lucian o Samosata (yr 2g OC) yr hanes hefyd, ond rhydd yr enw Philippides (ac nid Pheidippides) i'r chwedl.
Y Farathon Fodern
golyguCafodd y ras fodern gyntaf ei rhedeg yn 1896 yn y Chwaraeon Olympaidd. Rhedir dros 26 milltir 385 llath yn awr a hynny oherwydd i'r Frenhines Alexandra o Brydain yn 1904 fynnu bod y ras yn terfynnu yn yr union fan yr oedd hi yn sefyll.[2]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "IAAF Competition Rules for Road Races". International Association of Athletics Federations. International Association of Athletics Federations. 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-23. Cyrchwyd 1 Tachwedd 2010.
- ↑ Peter Lafferty, Torri Pob Record (Gwasg Gomer, 1996)