Y Ras Ofod

(Ailgyfeiriad o Ras y Gofod)

Roedd y Ras Ofod yn gystadleuaeth yn yr 20g rhwng y ddau wrthwynebydd y Rhyfel Oer, sef yr Undeb Sofietaidd a'r Unol Daleithiau, i sicrhau'r cyntaf i gallu Teithio'r gofod.

Y Ras Ofod
Math o gyfrwngcystadleuaeth, archwilio'r gofod Edit this on Wikidata
Mathrace to space Edit this on Wikidata
Dechreuwyd4 Hydref 1957 Edit this on Wikidata
Daeth i benGorffennaf 1975 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cafodd ei wreiddiau yn y ras arfau niwclear rhwng y ddwy wlad a ddigwyddodd yn dilyn yr Ail Ryfel Byd . Ystyriwyd bod y fantais dechnolegol sy'n ofynnol i gyflawni'r cerrig milltir yma yn gyflym yn angenrheidiol ar gyfer diogelwch gwladol, ac roedd yn gymysg â symbolaeth ac ideoleg yr oes. Arweiniodd y Ras Ofod at ymdrechion arloesol i lansio lloerennau artiffisial, chwiliedydd gofod i'r Lleuad, Gwener, a'r blaned Mawrth, a teithio gofod dynol.[1]

Dechreuodd y gystadleuaeth o ddifrif ar 2 Awst, 1955, pan ymatebodd yr Undeb Sofietaidd i gyhoeddiad yr Unol Daleithiau bedwar diwrnod ynghynt o fwriad i lansio lloerennau artiffisial. Cyflawnodd yr Undeb Sofietaidd y lansiad llwyddiannus cyntaf ar Hydref 4, 1957 efo Sputnik 1, Yr Undeb Sofietaidd oedd y cyntaf hefyd i anfon person, Yuri Gagarin , i'r gofod ar Ebrill 12, 1961. Hefyd anfonodd yr Undeb Sofietaidd y fenyw gyntaf, Valentina Tereshkova, i'r gofod ar 16 Mehefin, 1963. Yn ôl ffynonellau Rwseg, arweiniodd y cyflawniadau hyn at y casgliad bod gan yr Undeb Sofietaidd fantais yn technoleg gofod yn gynnar yn y 1960au.[2]

Yn ôl ffynonellau'r UD, fe gyrhaeddodd y "ras" uchafbwynt ar Gorffennaf 20, 1969, pan glaniodd yr Unol Daleithiau y bodau dynol cyntaf ar y Lleuad gyda Apollo 11 . Bydd y rhan fwyaf o ffynonellau'r UD yn tynnu sylw at laniad lleuad Apollo 11 fel cyflawniad unigol sy'n llawer mwy pwysig nag unrhyw gyfuniad o gyflawniadau Sofietaidd.[3][4][5][6]

Cyfeiriadau

golygu
  1. history.com, Space Race
  2. history.com, From Sputnik to Spacewalking: 7 Soviet Space Firsts, Oct 4, 2012
  3. "Apollo 11 Command and Service Module (CSM)". NASA Space Science Data Coordinated Archive. Cyrchwyd November 20, 2019.
  4. "Apollo 11 Lunar Module / EASEP". NASA Space Science Data Coordinated Archive. Cyrchwyd November 20, 2019.
  5. "Apollo 11 Mission Summary". Smithsonian Air and Space Museum. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-02-09. Cyrchwyd 2020-03-23.
  6. Williams, David R. (December 11, 2003). "Apollo Landing Site Coordinates". NASA Space Science Data Coordinated Archive. NASA. Cyrchwyd September 7, 2013.