Sputnik I
Lloeren Ddaearol artiffisial gyntaf dynoliaeth oedd Sputnik I (a gyfieithir o'r Rwsieg fel 'Lloeren 1') . Fe'i lansiwyd i gylchdro isel o'r Ddaear mewn taith eliptig gan yr Undeb Sofietaidd ar 4 Hydref 1957 fel rhan o'r rhaglen ofod Sofietaidd. Anfonodd signal radio yn ôl i'r Ddaear am dair wythnos cyn i'r tri batri arian-sinc ddod i ben. Disgynnodd yn ôl i'r atmosffer yn naturiol ar 4 Ionawr 1958. Gwnaed yr arsylwad cyntaf ohoni, o'r Ddaear, yn arsyllfa seryddol Rodewisch (Sacsoni).[1]
Enghraifft o'r canlynol | lloeren artiffisial o'r Ddaear |
---|---|
Màs | 83.6 cilogram |
Gwlad | Rwsia |
Rhan o | rhaglen Sbwtnig |
Dechreuwyd | 4 Hydref 1957 |
Daeth i ben | 5 Ionawr 1958 |
Olynwyd gan | Sputnik 2 |
Gweithredwr | Yr Undeb Sofietaidd |
Gwneuthurwr | S.P. Korolev Rocket a Space Corporation Energia |
Echreiddiad orbital | 0.05201 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Roedd y lloeren yn sffêr metal caboledig 58 cm (23 modfedd) mewn diamedr gyda phedwar antena radio allanol i ddarlledu dros y radio. Roedd yn hawdd i weithredwyr radio amatur ganfod ei signal radio, [2] a gwnaeth y gogwydd orbitol 65° i'w lwybr hedfan orchuddio bron yr holl Ddaear.
Ni ragwelwyd llwyddiant y lloeren gan yr Unol Daleithiau. Achosodd hyn argyfwng Sputnik America a sbarduno'r Ras Ofod, rhan o'r Rhyfel Oer. Roedd y lansiad yn ddechrau cyfnod newydd o ddatblygiadau gwleidyddol, milwrol, technolegol a gwyddonol.[3]
Gair Rwsieg yw sputnik am loeren o'i ddehongli mewn cyd-destun seryddol;[4] ei ystyron eraill, o ran tarddiad y gair yw cydymaith teithio.[5][6]
Roedd tracio ac astudio Sputnik 1 o'r Ddaear yn rhoi gwybodaeth werthfawr i seryddwyrr. Gellid cyfrifo dwysedd yr atmosffer uchaf o sut a faint yr oedd y lloeren yn llusgo, yn arafu ar yr orbit, a rhoddodd lledaeniad ei signalau radio ddata gwerthfawr am yr ionosffer.
Lansiwyd Sputnik 1 o Safle Rhif 1/5, yn 5ed amrediad Tyuratam, yn Kazakh SSR (a elwir bellach yn Gosmodrome Baikonur). Teithiodd y lloeren ar gyflymder uchaf o tua 8 km/eiliad (18,000 milltir yr awr), gan gymryd 96.20 munud i gwblhau un cylchdro o'r Ddaear. Roedd yn trawsyrru ar donfedd o 20.005 a 40.002 MHz,[7] a gafodd eu monitro gan weithredwyr radio ledled y byd. Parhaodd y signalau am 22 diwrnod nes disbyddu batris y trosglwyddydd ar 26 Hydref 1957. Ar 4 Ionawr 1958, ar ôl tri mis mewn orbit, llosgodd Sputnik 1 wrth ddychwelyd i atmosffer y Ddaear, ar ôl cwblhau 1,440 cylchdro o'r Ddaear,[8] a theithio pellter o tua 70,000,000 km (43,000,000 mi).[9]
Geirdarddiad
golyguYstyr Спутник-1, (Orgraff Orllewinol: Sputnik-Odin yw 'Lloeren-Un'. Bathwyd y gair Rwsieg am Loeren (spwtnic), yn y 18g drwy gyfuno'r rhagddodiad s- ('cyd') gyda pwtnic ('teithiwr'), i greu 'cyd-deithiwr'.[10] Mae'r gair Cymraeg, fodd bynnag, yn cysylltu gyda'r 'lloer' (nid y Lloer daearol), sydd hefyd yn lloeren.
Dyluniad
golyguCynlluniwyd Sputnik 1 i fodloni set o ganllawiau ac amcanion megis:[11]
- symlrwydd a dibynadwyedd y gellid eu haddasu i brosiectau yn y dyfodol
- corff sfferig i helpu i bennu dwysedd atmosfferig o'i gyfnod mewn orbit
- offer radio i hwyluso tracio ac i gael data ar ymlediad tonnau radio trwy'r atmosffer
- dilysu cynllun gwasgedd y lloeren
Prif adeiladwr Sputnik 1 yn OKB-1 oedd Mikhail S. Khomyakov.[12] Roedd y lloeren sfferig yn 585 milimetr (23.0 mod) o ddiamedr, wedi'i gynhyrchu o ddwy ran (dau hanergylch) a'u cysylltu gan 36 bollt. Roedd ganddo fàs o 83.6 cilogram (184 lb).[13] Trwch y ddwy ran hanergylch oedd 2 mm,[14] ac un tarian wres 1 mm o drwch[15] wedi'i wneud o aloi alwminiwm - magnesiwm - titaniwm, AMG6T. Roedd gan y lloeren ddau bâr o antena a ddyluniwyd gan Labordy Antena OKB-1, dan arweiniad Mikhail V. Krayushkin.[16] Roedd pob antena yn cynnwys dwy ran tebyg i chwip, 2.4 a 2.9 metr o hyd,[17] ac roedd ganddo batrwm ymbelydredd bron yn sfferig.[18]
Dolennau allanol
golygu- Lloeren Un: Hanes y ddyfais gyntaf o waith dyn yn y gofod gan Asiantaeth Newyddion Rwsia TASS
- Dogfennau'n ymwneud â Sputnik 1 a'r Ras Ofod yn Llyfrgell Arlywyddol Dwight D. Eisenhower
- Dathlu 50 mlynedd ers Oes y Gofod a Sputnik – cyfrwng rhyngweithiol gan NASA
- Cofio Sputnik : Syr Arthur C. Clarke – cyfweliad ar gyfer IEEE Spectrum
- Rhaglen Sputnik Tudalen gan NASA's Solar System Archwilio....
- NASA ar Sputnik 1
- Prosiect ar y cyd yn Rwsia o systemau gwybodaeth microbrosesu Tir SRC "PLANETA" a labordy Cymorth Gwybodaeth Monitro Gofod (IKI RAN) sy'n ymroddedig i ben-blwydd Sputnik 1 yn 40 oed
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Sternwarte und Planetarium - die Beobachtung von Sputnik 1".
- ↑ Ralph H. Didlake, KK5PM; Oleg P. Odinets, RA3DNC (22 September 2008). "Sputnik and Amateur Radio". American Radio Relay League. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 October 2007. Cyrchwyd 26 Mawrth 2008.
- ↑ McDougall, Walter A. (Winter 2010). "Shooting The Moon". American Heritage 59 (4). ISSN 0002-8738. https://www.americanheritage.com/content/shooting-moon. Adalwyd January 3, 2019.
- ↑ "Display: Sputnik-1 1957-001B". NASA. 27 April 2021. Cyrchwyd 16 May 2021.
- ↑ "Sputnik 1, Earth's First Artificial Satellite in Photos". SPACE.com. 4 October 2020.
- ↑ "APOD: October 3, 1998 – Sputnik: Traveling Companion". apod.nasa.gov.
- ↑ Jorden, William J. (5 October 1957). "Soviet Fires Earth Satellite Into Space". The New York Times. Cyrchwyd 28 December 2015.
- ↑ Zak, Anatoly (2015). "Sputnik's mission". RussianSpaceWeb.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Ionawr 2013. Cyrchwyd 27 December 2015.
- ↑ "Sputnik-1 1957-001B". NASA. 27 April 2021. Cyrchwyd 16 May 2021.
- ↑ Chappell, David (2020-03-25). "Where Did Sputnik Get its Name?".
- ↑ Siddiqi, Asif A. (2023-03-29). "Korolev, Sputnik, and The International Geophysical Year". NASA History Division: Sputnik and the Dawn of the Space Age. National Aeronautics and Space Administration.
- ↑ [80th Anniversary of Oleg Genrikhovich Ivanovsky]
|trans-title=
requires|title=
(help) (yn Rwseg). Novosti Kosmonavtiki https://web.archive.org/web/20090619143712/http://www.novosti-kosmonavtiki.ru/content/numbers/230/52.shtml|archiveurl=
missing title (help). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Mehefin 2009. - ↑ Кречетников, Артем (25 September 2007). (yn Rwseg). BBC Russia https://web.archive.org/web/20080205131922/http://news.bbc.co.uk/hi/russian/russia/newsid_7010000/7010982.stm. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 February 2008. Unknown parameter
|TransTitle=
ignored (|trans-title=
suggested) (help); Missing or empty|title=
(help) - ↑ Wade, Mark. "Sputnik 1". Encyclopedia Astronautica. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 February 2007. Cyrchwyd 20 Ionawr 2007.
- ↑ [PS-1 – Earth's First Artificial Satellite]
|trans-title=
requires|title=
(help) (yn Rwseg). Novosti Kosmonatviki https://web.archive.org/web/20071011160322/http://novosti-kosmonavtiki.ru/content/numbers/157/03.shtml|archiveurl=
missing title (help). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 October 2007. - ↑ Lidorenko, Nikolai. "On the Launch of the First Earth's artificial satellite in the USSR" (yn Rwseg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 April 2008. Cyrchwyd 26 Mawrth 2008.
- ↑ [The companion who saved the world]
|trans-title=
requires|title=
(help) (yn Rwseg). Парламентская газета. 4 October 2007 https://web.archive.org/web/20071219184722/http://www.pnp.ru/chapters/events/events_4378.html|archiveurl=
missing title (help). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 December 2007. - ↑ [Sputnik-1 Satellite]
|trans-title=
requires|title=
(help) (yn Rwseg). USSR in space. 27 Mehefin 2018 https://web.archive.org/web/20080323073641/http://www.space-ru.com/russian-satellites/satellite-sputnik-1/|archiveurl=
missing title (help). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Mawrth 2008.