Yuri Gagarin
Gofodwr Sofietaidd oedd Yuri Alekseyevich Gagarin (Rwseg: Юрий Алексеевич Гагарин) (9 Mawrth 1934 ger Smolensk - 27 Mawrth 1968); ef oedd y gofodwr cyntaf i deithio i'r gofod a hynny yn 1961. Roedd yn Arwr yr Undeb Sofietaidd.
Yuri Gagarin | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
Юрий Алексеевич Гагарин ![]() 9 Mawrth 1934 ![]() Klushino ![]() |
Bu farw |
27 Mawrth 1968 ![]() Achos: damweiniau a digwyddiadau awyrennu ![]() Novosyolovo ![]() |
Man preswyl |
Yr Undeb Sofietaidd ![]() |
Dinasyddiaeth |
Yr Undeb Sofietaidd ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
hedfanwr, gofodwr, swyddog, gwleidydd, fforiwr ![]() |
Swydd |
aelod o Sofiet Goruchaf yr Undeb Sofietaidd ![]() |
Plaid Wleidyddol |
Plaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd ![]() |
Tad |
Alexey Gagarin ![]() |
Mam |
Anna Timofeevna Gagarina ![]() |
Priod |
Valentina Ivanovna Gagarina ![]() |
Plant |
Yelena Gagarina, Galina Yuryevna Gagarina ![]() |
Gwobr/au |
Arwr yr Undeb Sofietaidd, Urdd Lenin, Pilot-Cosmonaut" Yr Undeb Sofietaidd, Hero of Socialist Labour of Czechoslovakia, Arwr Llafur Sosialaidd, Urdd Georgi Dimitrov, Urdd Croes Grunwald, dosbarth 1af, Urdd Baner Gweriniaeth Hwngari, Urdd Karl Marx, Order of the Nile, Urdd Klement Gottwald, Hero of Labor, Star of the Republic of Indonesia, Urdd Playa Girón, Urdd Seren Affrica, Jubilee Medal "40 Years of the Armed Forces of the USSR", Medal "For the Development of Virgin Lands, Gold Star, Medal Jiwbili "20 Mlynedd ers Buddugoliaeth Rhyfel Gwladgarol 1941–1945", Medal "For Impeccable Service", 3rd class, Medal Jiwbilî "50 Mlynedd o Luoedd Arfog yr Undeb Sofietaidd", Urdd Croes y De, Meistr Anrhydeddus Chwaraeon, CCCP, Medal"Am Wasanaeth Arbennig", Cymhwyster dosbarth milwrol y peilot, Order of Aeronautical Merit, Supreme Soviet of the Soviet Union, Q16654323, Order of the Cross of Grunwald ![]() |
Llofnod | |
![]() |
BywgraffiadGolygu
Ganed Yuri Gagarin ger dinas Smolensk yn yr Undeb Sofietaidd ar 9 Mawrth 1934. Ar ôl gorffen ei addysg ysgol yn 1949, aeth Gagarin i sawl ysgol dechnegol cyn cofrestru i hyfforddi fel peilot yn Ysgol Uwch yr Awyrlu Orenburg yn 1955.
Fe'i hyfforddwyd fel cosmonaut (gofodwr). Lansiwyd y capsiwl gofod, Vostok 1, gyda Gagarin ar ei fwrdd ar 12 Ebrill 1961. Treuliodd Gagarin tua 90 munud yn y gofod, digon i fynd rownd y Ddaear unwaith, cyn glanio yn yr Undeb Sofietaidd. Gwelwyd yr hediad fel buddugoliaeth bropaganda anferth yn ystod y Rhyfel Oer.
Yn 1963 cafodd Gagarin ei benodi'n Is Gyfarwyddwr Canolfan Hyfforddi Cosmonawtiaid yr Undeb Sofietaidd. Yn 1966 bu'n aelod criw wrth gefn Soyuz 1 ac ar 17 Chwefror 1968 gorffennodd ei gwrs gradd yn y gwyddorau technolegol.
Cafodd ei ladd ar 27 Mawrth 1968 mewn damwain awyren tra'n peilotio awyren MIG-15.
Diwylliant poblogaiddGolygu
Ceir cyfeiriadau at Yuri Gagarin yng nghân y Sibrydion, 'Diasbedain'.