Raymond Davies Hughes
Awyrennwr o Gymru yn yr Awyrlu Brenhinol oedd Raymond Davies Hughes (11 Awst 1923 - 4 Ebrill 1999) a wnaeth darlledu propaganda ar gyfer yr Almaen Natsïaidd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Raymond Davies Hughes | |
---|---|
Ganwyd | 11 Awst 1923 Yr Wyddgrug |
Bu farw | 4 Ebrill 1999 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | awyrennwr |
Daeth o'r Wyddgrug. Wedi i'w awyren gwympo dros yr Almaen ym 1943 cafodd ei ddal gan y Natsïaid a chytunodd i ddarlledu propaganda trwy gyfrwng y Gymraeg yn targedu lluoedd Cymreig oedd yn ymladd yn yr Ymgyrch Eidalaidd o Ionawr hyd Fawrth 1944. Cafodd ei ddanfon yn ôl i wersyll carcharorion rhyfel cyn cael ei ryddhau gan luoedd Sofietaidd ym mis Ebrill 1945. Cafodd ei arestio am gynorthwyo'r gelyn yn wirfoddol a bu cwrt-marsial yn ei erbyn yn Awst 1945, a phlediodd yn ddieuog i 11 o gyhuddiadau. Cafwyd yn euog o bump ohonynt a dedfrydwyd i bum mlynedd o lafur caled, a gafodd ei leihau i ddwy mlynedd.