Yr Undeb Sofietaidd
Gwladwriaeth Sosialaidd un-blaid yng ngogledd Ewrasia o 1922 i 1991 oedd yr Undeb Sofietaidd, neu'n llawnach Undeb y Gweriniaethau Sofiet Sosialaidd (Rwsieg: Союз Советских Социалистических Республик (CCCP) Soyuz Sovetskikh Sotsialisticheskikh Respublik (SSSR)). Llywodraethwyd y wlad gan y Blaid Gomiwnyddol (КПСС) a hynny o Fosgo, prifddinas yr Undeb Sofietaidd.[1] Er mai undeb o nifer o weriniaethau llai oedd yr Undeb Sofietaidd roedd ei lywodraeth wedi'i ganoli'n llwyr ym Mosgo. Y mwyaf o'r gweriniaethau hyn oedd "Rwsia", o ran maint, poblogaeth, economeg a dylanwad gwleidyddol. Yn achlysurol, newidiai ei ffiniau ac roedd o ran maint ei harwynebedd bron mor fawr ag Ymerodraeth Rwsia heb Wlad Pwyl a'r Ffindir.
Arwyddair | Пролетарии всех стран, соединяйтесь! |
---|---|
Math | gwlad ar un adeg |
Enwyd ar ôl | soviet, sosialaeth, gweriniaeth |
Prifddinas | Moscfa |
Poblogaeth | 293,047,571 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Emyn yr Undeb Sofietaidd |
Pennaeth llywodraeth | Ivan Silayev |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Rwseg |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Yr Undeb Sofietaidd |
Arwynebedd | 22,402,200 km² |
Yn ffinio gyda | Tsiecoslofacia, Y Ffindir, Iran, Twrci, Mongolian People's Republic, Gweriniaeth Pobl Tsieina, Gogledd Corea, Affganistan, Japan, Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Pobl Gwlad Pwyl, Bwlgaria, Gweriniaeth Sosialaidd Rwmania, Unol Daleithiau America, Rwmania, Ymerodraeth Japan, Interwar Estonia, Interwar Lithuania, Interwar Latvia, yr Almaen Natsïaidd, Hwngari |
Cyfesurynnau | 65°N 90°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Supreme Soviet of the Soviet Union |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arglwydd yr Undeb Sofietaidd |
Pennaeth y wladwriaeth | Mikhail Gorbachev |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Chairman of the Council of Ministers of the USSR |
Pennaeth y Llywodraeth | Ivan Silayev |
Sefydlwydwyd gan | Gwladwriaeth Ffederal, Sosialaidd, Sofietaidd Rwsia, Gweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Wcráin, Gweriniaeth Sofiet Sosialaidd Belarws, Gweriniaeth Sofietaidd Ffederal a Sosialaidd Trawsgawcasaidd |
Crefydd/Enwad | gwladwriaeth seciwlar |
Arian | Soviet ruble |
Hanes
golyguMae tarddiad yr Undeb Sofietaidd i'w ganfod yn y diffyg bwyd wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf a arweiniodd i Chwyldro Rwsia yn 1917 a phan ymunodd mwyafrif milwyr Petrograd â'r chwyldro gorfodwyd y Tsar Niclas II i ymddiswyddo o'i frenhiniaeth.
Arweiniwyd y Bolsieficiaid gan Vladimir Lenin a gorchfygwyd y Llywodraeth Dros-dro. Sefydlwyd "Gwladwriaeth Sofiet Sosialaidd, Ffederal Rwsia" a chychwynodd Rhyfel Cartref Rwsia. Cefnogwyd y Comiwnyddion gan y fyddin a chymerwyd drosod peth tir yn yr hen Ymerodraeth. Erbyn 1922 roedd hi'n amlwg mai'r Bolsieficiaid oedd wedi trechu a ffurfiwyd Undeb allan o'r is-weriniaethau llai megis Rwsia, Armenia, yr Wcráin a Bielorwsia. Yn dilyn marwolaeth Lenin yn 1924, a mân-frwydrau am rym, daeth Joseff Stalin i'r brig yng nghanol y 1920au. Fe sodrodd ideoleg y wlad yn sownd mewn Marcsiaeth–Leniniaeth a dilynodd hynny drwy ganoli pwer ac economi'r Undeb. O ganlyniad gwelwyd twf aruthrol yn niwydiant a chyfunoliad y wlad. Cyflwynodd Stalin y Cynlluniau Pum Mlynedd a ffermau cyfunol. Datblygodd yr Undeb Sofietaidd ac erbyn 1922 roedd yn wlad ddiwydiannol pwysig iawn. Roedd hyn yn ei pharatoi'n solad ar gyfer yr Ail Ryfel Byd.[2] Pan welodd Stalin fod Ffasgaeth yn chwalu drwy'r wlad fel tân gwyllt, cychwynodd greu panig politicaidd a system garchardai'r Gwlag a barhaodd hyd at y 1950au.
Cydnabyddwyd nerth yr Undeb Sofietaidd ers yr Ail Ryfel Byd oherwydd ei nerth milwrol, cymorth i wledydd datblygol ac ymchwil gwyddonol, yn bennaf ar gyfer technoleg gofod ac arfau. Fodd bynnag, roedd perthynas yr Undeb Sofietaidd a'r Unol Daleithiau wedi dirywio'n enbyd ac o ganlyniad dechreuodd y Rhyfel Oer. Adeiladwyd Sputnik I, y lloeren gyntaf i gylchdroi'r ddaear yn yr Undeb Sofietaidd.
Yn ail hanner y 1980au cyhoeddodd Mikhail Gorbachev, Ysgrifennydd Cyffredin y Blaid Gomiwnyddol, bolisi o glasnost (didwylledd) a perestroika (newid y strwythur economaidd). O ganlyniad cafwyd cyfarfod rhwng yr Unol Daleithiau a'r Undeb Sofietaidd ym 1986 a 1987 a chyfarfu Ronald Reagan, Arlywydd yr Unol Daleithiau gyda Gorbachev ym 1988 a chafodd nifer o arfau yn Ewrop eu lleihau.
Cyn yr Undeb Sofietaidd roedd gwledydd comiwnyddol dwyrain Ewrop yn datgyfannu. Ond o dan reolaeth Boris Yeltsin diddymodd yr Undeb Sofietaidd yn heddychol ym mis Rhagfyr 1991. Ymunodd y mwyafrif o aelod-gweriniaethau yr Undeb Sofietaidd â'r Gymanwlad Gwladwriaethau Annibynnol.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Bridget O'Laughlin (1975) Marxist Approaches in Anthropology Annual Review of Anthropology Cyfrol 4: tud. 341–70 (Hydref 1975) doi:10.1146/annurev.an.04.100175.002013.
William Roseberry (1997) Marx and Anthropology Annual Review of Anthropology, Cyfrol 26: tud. 25–46 (Hydref 1997) doi:10.1146/annurev.anthro.26.1.25 - ↑ Robert Service (9 Medi 2005). Stalin: a biography. Picador. ISBN 978-0-330-41913-0.