Gwleidyddiaeth neu ddiplomyddiaeth sy'n seiliedig ar ystyriaethau ymarferol yn hytrach na syniadau ideolegol, ac felly polisïau gydag amcanion cyfyngedig sydd â siawns rhesymol o lwyddiant yw Realpolitik (Almaeneg: real "realistig", "ymarferol" neu "wirioneddol"; a Politik "gwleidyddiaeth") neu yn Gymraeg realpolitic.[1] Tarddodd y term a'r cysyniad o'r Almaen yn y 19g fel ymateb i'r dadrith a deimlwyd o ganlyniad i ddiffyg realaeth mewn polisïau rhyddfrydwyr yn ystod Chwyldroadau Almaenig 1848. Defnyddir Realpolitik yn aml i ddisgrifio polisïau Otto von Bismarck, Canghellor cyntaf Ymerodraeth yr Almaen.

Mae Realpolitik yn awgrymu sylw craff at fanylder, cymedroldeb, a pharodrwydd i ddefnyddio grym os oes angen. Camddefnyddir y term yn aml fel cyfystyr am wleidyddiaeth grym (neu Machtpolitik), ac yn aml mae gan y term gysylltiad negyddol â pholisi tramor yr Almaen Natsïaidd.

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur yr Academi, [realpolitik].

Ffynhonnell golygu

  • Evans, G. a Newnham, J. The Penguin Dictionary of International Relations (Llundain, Penguin, 1998).