Recordiau Qualiton

cwmni recordiau o Gymru

Label recordiau fach o ardal Abertawe oedd Recordiau Qualiton. Sylfaenwyd y cwmni gan John Edwards yn 1953[1]. Roedd yn cynhyrchu recordiau shellac a feinyl o'r 1950au hyd at 1961 ym Mhontardawe. Ymhlith y rhai cyntaf i recordio i'r label oedd y tenor David Price a Chymdeithas Gorawl Pontarddulais. Yr enw corfforaethol ar y cwmmni oedd Cwaliton Records (Wales) Ltd o Bontardawe.[2]

Recordiau Qualiton
Qualiton Records, Pontardawe
Enghraifft o'r canlynollabel recordio Edit this on Wikidata
Daeth i ben1961 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1953 Edit this on Wikidata
Genrecerddoriaeth boblogaidd Edit this on Wikidata
Olynwyd ganDecca Records Edit this on Wikidata
PencadlysPontardawe Edit this on Wikidata

Artistiaid

golygu

Cyhoeddodd y cwmni dros 110 o recordiau sengl ac Eps, tua 120 o recordiau hir 10” a 12” a chasetiau a nifer helaeth o recordiau 78 gan Jac a Wil, Richie Thomas, Euryl Coslett a nifer eraill. Bu John Edwards ei hun yn chwarae’r piano ar ambell i record.[3]

Dod i ben

golygu

Fe'i prynwyd yn ddiweddarach gan Decca a'i ailenwi yn Qualiton Records (1968) Ltd. Defnyddiwyd colledion y cwmni gan Decca am resymau treth.[4]

Er i Qualiton arfer rhyddhau cerddoriaeth corau a chanu ysgafn, ym 1967 rhyddhawyd y sengl Maes B gan Y Blew - y record roc trydanol cyntaf yn yr iaith Gymraeg. Credir i tua 2,000 o senglau cael eu gwasgu.

 
Record sengl Maes B gan Y Blew, 1967

Yn 1962 sefydlodd Edwards gwmni recordiau Welsh Teldisc a bu'n gyfrifol am gyhoeddi recordiau gen artistaid fel Dafydd Iwan a Richie Thomas.[5]

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1.  SWYNGYFAREDD YR HEN RECORDIAU gan Huw Williams. Adalwyd ar 25 Mawrth 2017.
  2. "Qualiton". Y Blog Recordiau Cymraeg. 28 Ionawr 2020.
  3. "Qualiton". Y Blog Recordiau Cymraeg. 28 Ionawr 2020.
  4. (Saesneg) JOHN EDWARDS: A BIOGRAPHY. Adalwyd ar 25 Mawrth 2017.
  5. "Welsh Teldisc". Blog Recordiau Cymraeg. 18 Rhagfyr 2019.