Nofel a gyhoeddwyd gyntaf ym 1958 gan yr awdur Cymreig Peter George am ryfel niwclear yw Red Alert. Y llyfr oedd yr ysbrydoliaeth sylfaenol i ffilm Stanley Kubrick Dr. Strangelove or: How I Learned to Stop Worrying and Love the Bomb (1964). Mae ffilm Kubrick yn wahanol iawn i'r nofel yn yr ystyr ei bod yn gomedi du yn hytrach nag antur iasol apocalypteg y llyfr.[1]

Clawr y llyfr gwreiddiol (argraffiad 1af y DU)

Cyhoeddwyd y llyfr yn wreiddiol yn y DU fel Two Hours to Doom, gyda George yn defnyddio'r ffugenw "Peter Bryant" (Bryan Peters ar gyfer y cyfieithiad Ffrangeg, 120 minutes pour sauver le monde). Mae'r nofel yn delio â bygythiad apocalyptaidd rhyfel niwclear a'r hurtrwydd o'r rhwyddineb gellir arwain at ei sbarduno. Roedd Red Alert yn enghraifft gynnar o'r genre o ffuglen amserol ar ddiwedd y 1950au a gychwynnwyd trwy gyhoeddi On the Beach gan Nevil Shute.

Roedd llyfr poblogaidd diweddarach Eugene Burdick a Harvey Wheeler, Fail-Safe, mor debyg i Red Alert yn ei ragosodiad fel bod George wedi eu herlyn ar gyhuddiad o dorri hawlfraint, gan arwain at setliad y tu allan i'r llys. Byddai'r ddwy nofel yn mynd ymlaen i ysbrydoli ffilmiau gwahanol iawn, a fyddai'r ddwy yn cael eu rhyddhau ym 1964 gan yr un stiwdio (Columbia Pictures).

Cynnwys golygu

Plot golygu

Mewn rhithdyb paranoid mae Quinten cadfridog isel ei ysbryd yn Awyrlu'r Unol Daleithiau yn lansio ymosodiad niwclear ataliol yn yr awyr ar yr Undeb Sofietaidd. Mae'n lansio’r ymosodiad trwy gam ddefnyddio ei allu i lansio bomiau niwclear o dan orchymyn rhyfel go iawn oedd yn bodoli yn yr UD ar y pryd. Roedd Wing Attack Plan R, yn awdurdodi i Reolwyr Awyr Strategol o'r rhengoedd is i ddial ar elyn os oedd ymosodiad niwclear gan y gelyn wedi analluogi llywodraeth yr UD. Mae'n ymosod gydag adain fomio B-52 gyfan, pob un wedi'u harfogi â dwy arf niwclear a'u hamddiffyn â gwrth fesurau electronig i atal y Sofietiaid rhag eu saethu i lawr.[2]

Pan ddaw Arlywydd a chabinet yr UD yn ymwybodol bod ymosodiad ar y gweill, maent yn cynorthwyo awyrlu'r Undeb Sofietaidd i ryng-gipio'r awyrennau cyn iddynt gyrraedd eu targed. Mae'r ymgais yn aflwyddiannus. Er bod y Sofietiaid yn dinistrio dwy awyren bomio dim ond cael ei difrodi mae trydydd, yr Angel Alabama, sy'n parhau i fod yn yr awyr ac ar ei ffordd i’w darged.

Mae llywodraeth yr UD yn ailsefydlu cadwyn reoli ar faes awyr milwrol y Rheolwyr Awyr Strategol. Mae'r cadfridog a lansiodd yr ymosodiad, yr unig ddyn sy'n gwybod y cod tynnu'n ôl yr ymosodiad, yn lladd ei hun cyn ei gipio a'i holi. Mae ei swyddog gweithredol yn canfod y cod tynnu'n ôl mewn dwdlau ar bad ysgrifennu ar ddesg y cadfridog. Mae'r cod yn cael ei dderbyn gan yr awyrennau bomio sydd wedi goroesi, ac maen nhw'n cael eu galw'n ôl yn llwyddiannus, funudau cyn bomio eu targedau yn yr Undeb Sofietaidd, heblaw am yr Angel Alabama, y mae ei radio a ddifrodwyd yn gynharach yn atal iddo dderbyn y cod; mae'n symud ymlaen i'w darged.

Mewn ymdrech olaf i osgoi rhyfel niwclear Sofietaidd-Americanaidd, mae Arlywydd yr UD yn cynnig yr hawl cydadferol i Arlywydd yr Undeb Sofietaidd ddinistrio Atlantic City, New Jersey. Ar yr eiliad olaf, mae Angel Alabama yn methu â dinistrio ei darged, ac mae trychineb niwclear yn cael ei osgoi.

Strangelove a Fail-Safe golygu

Cydweithiodd Peter George, awdur Red Alert ar sgript sgrin Dr. Strangelove gyda Kubrick a'r dychanwr Terry Southern.[3] Roedd Red Alert yn fwy difrifol na'i fersiwn ffilm ac nid oedd yn cynnwys y cymeriad Dr. Strangelove er bod y prif blot a'r elfennau technegol yn eithaf tebyg. Cyhoeddwyd ail nofel wedi seilio ar sgript y ffilm, yn hytrach nag ailargraffiad o'r nofel wreiddiol, gan George, yn seiliedig ar ddrafft cynnar lle mae ymwelwyr o fyd arall yn ceisio deall beth ddigwyddodd ar ôl cyrraedd daear ddrylliedig.

Yn ystod ffilmio Dr. Strangelove, dysgodd Kubrick fod Fail-Safe, ffilm â thema debyg, yn cael ei chynhyrchu. Er bod Fail-Safe i fod yn ffilm gyffro ultrarealistig, roedd Kubrick yn ofni y byddai tebygrwydd plot yn niweidio potensial swyddfa docynnau ei ffilm, yn enwedig pe bai Fail-Safe yn cael ei ryddhau gyntaf. Roedd y nofel Fail-Safe (y mae'r ffilm o'r un enw wedi'i seilio arni) mor debyg i Red Alert bod Kubrick a Peter George wedi dwyn achos o dorri hawlfraint yn erbyn ei awdur.[4] Cafodd yr achos ei setlo y tu allan i'r llys. [2] Yr hyn a oedd yn poeni Kubrick mwyaf oedd bod y cyfarwyddwr clodwiw Sidney Lumet yn brolio bod Fail-Safe am gael ei berfformio gan actorion dramatig o'r radd flaenaf, Henry Fonda fel Arlywydd America a Walter Matthau fel ymgynghorydd y Pentagon, yr Athro Groeteschele.[5]

Dadleuodd Kubrick fod nofel ffynhonnell wreiddiol Fail-Safe o 1962 wedi cael ei chopïo o'r nofel Red Alert, roedd Kubrick yn berchen ar hawliau creadigol iddi. Tynnodd sylw at debygrwydd digamsyniol mewn bwriadau rhwng y cymeriadau Groeteschele a Strangelove (er nad oes cymeriad Strangelove yn nofel wreiddiol George). Gweithiodd y cynllun, ac agorodd Fail-Safe wyth mis ar ôl Dr. Strangelove , i ganmoliaeth feirniadol da ond gwerthiant tocynnau sâl.

Cyfeiriadau golygu

  1. Jones, Carwyn (2015-03-29). "Getting to know Dr Strangelove". Cyrchwyd 2019-10-16.
  2. George, Peter; Bryant, Peter (2011). Red Alert. RosettaBooks. ISBN 9780795301223. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-10-16. Cyrchwyd 2019-10-16.
  3. "Stanley Kubrick | Biography, Movies, & Awards". Encyclopedia Britannica. Cyrchwyd 2019-10-16.
  4. Scherman, David E. (8 March 1963). "in Two Big Book-alikes a Mad General and a Bad Black Box Blow Up Two Cities, and then— Everybody Blows Up!". Life. t. 49. Cyrchwyd 16 Hydref 2019.
  5. Schlosser, Eric. (2014). Command and control : nuclear weapons, the Damascus Accident, and the illusion of safety. New York: Penguin Books. ISBN 9780143125785. OCLC 861673492.