Reginald Brooks-King
Roedd Reginald Brooks-King (27 Awst 1861 - 19 Medi 1938) yn saethydd o Gymru. Bu hefyd yn chware Criced i dîm Gwlad yr Haf, ac fe ddyfeisiodd un o'r peiriannau bowlio cynharaf.[1]
Reginald Brooks-King | |
---|---|
Ganwyd | 27 Awst 1861 Trefynwy |
Bu farw | 19 Medi 1938 Ottery St Mary |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | saethydd, cricedwr |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Cefndir
golyguFe'i ganed yn Nhrefynwy yn fab i'r Cyrnol James Pearce King, o The Elms, Trefynwy. Ym 1892 priododd Jessie, pedwaredd ferch yr Is-gapten Richard Bagnall, o Severn Stoke, Swydd Gaerwrangon [2]
Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Malvern,[3] lle fu'n aelod o dimau criced a phêl droed yr ysgol. Wedi ymadael a'r ysgol fu'n astudio peirianneg a gwyddorau cymhwysol yng Ngholeg y Brenin Llundain. Wedi graddio bu'n gweithio fel peiriannydd rheilffordd.[1]
Saethydd
golyguBu'n Bencampwr Saethyddiaeth Prydain rhwng 1901 and 1903 ac yn ysgrifennydd cymdeithas saethyddiaeth Prydain ym 1904. .[1]
Enillodd y fedal arian yng nghystadleuaeth ddwbl York yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1908.[4] Saethodd Brooks-King 393 yn rownd gyntaf y gystadleuaeth, a gynhaliwyd yn Llundain. Rhoddodd hyn ef yn yr ail safle, 10 pwynt tu ôl i'r arweinydd William Dod, hanner ffordd drwy'r gystadleuaeth. Ar yr ail ddiwrnod o saethu, llwyddodd Brooks-King i daro 375 i gymryd y pedwerydd lle ar y diwrnod ond yn ail ar y cyfan gyda 768 o bwyntiau, ymhell y tu ôl i Dod ond 8 pwynt o flaen Henry B. Richardson yn drydydd safle.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 Welsh-archer Reginald Brooks-King adalwyd 1 Rhagfyr 2018
- ↑ "Socialand and Personal - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1892-12-20. Cyrchwyd 2018-12-01.
- ↑ The Malvern Register adalwyd 1 Rhagfyr 2018
- ↑ Stori Sydyn: Cymry yn y Gêmau Olympaidd; John Meurig Edwards; Gwasg y Lolfa. ISBN 9781847714107
Dolenni allanol
golygu- Cook, Theodore Andrea (1908). The Fourth Olympiad, Being the Official Report. London: British Olympic Association.
- De Wael, Herman (2001). "Archery 1908". Herman's Full Olympians. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-09-29. Cyrchwyd 1 Rhagfyr 2018.