Gemau Olympaidd yr Haf 1908
Cynhaliwyd Gemau Olympaidd 1908, a adnabyddir yn swyddogol fel Gemau'r Olympiad IV, yn Llundain yn 1908. Bwriadwyd cynnal y gemau hyn yn Rhufain yn wreiddiol. Ar y pryd, rhain oedd y pumed Gemau Olympaidd Modern. Ond fe is-raddiwyd Gemau Olympaidd 1906 ers hynny gan y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol ac felly ystyrir gemau 1908 i fod y pedwerydd Gemau Olympaidd Modern, gan gadw o fewn y patrwm cylchred pedair mlynedd. Llywydd y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol oedd Baron Pierre de Coubertin. Bu Thomas Scott-Ellis, 8fed Barwn Howard de Walden, perchennog Castell y Waun yn cystadlu yn y gystadleuaeth rasio cychod.
Enghraifft o'r canlynol | Gemau Olympaidd yr Haf |
---|---|
Dyddiad | 1908 |
Dechreuwyd | 27 Ebrill 1908 |
Daeth i ben | 31 Hydref 1908 |
Rhagflaenwyd gan | Gemau Olympaidd yr Haf 1904, 1906 Intercalated Games |
Olynwyd gan | Gemau Olympaidd yr Haf 1912 |
Lleoliad | White City Stadium, Llundain |
Gwefan | https://olympics.com/en/olympic-games/london-1908 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Roedd yr awdurdodau Eidalaidd yn paratoi'r isadeileddau ar gyfer y gemau pan echdorodd Vesuvius ar y 7fed o Ebrill 1906, gan ddinistrio dinas Napoli ger llaw. Fe ail-gyfeirwyd yr arian a neilltuwyd ar gyfer y gemau tuag at ail-adeiladu Napoli, felly roedd angen lleoliad newydd. Dewiswyd Llundain, a chynhaliwyd y gemau yn White City wrth ochr yr Arddangosfa Ffranco-Brydeinig, a oedd yn ddigwyddiad llawer mwy nodweddiadol ar y pryd. Berlin a Milan oedd yr ymgeiswyr eraill i gynnal y Gemau.
Chwaraeon
golyguCystadlwyd 22 o chwaraeon, yn cynyrchioli 24 o ddisgyblaehau chwaraeon, yng Ngemau 1908. Ystyriwyd nofio, plymio a polo dŵr fel tair disgyblaeth o'r un chwaraeon. Roedd tug-of-war yn rhan o athletau a rhestrwyd dau ffurf o gôd pêl-droed cymdeithas a Rygbi'r Undeb gyda'i gilydd. Cystadlodd Cymru fel gwlad yn ei hawl ei hun yn y gystadleuaeth hoci gyda Tîm hoci cenedlaethol dynion Cymru yn dod yn drydedd ac ennill Medal Efydd.
Cenhedloedd a Gyfranogodd
golyguRoedd athletwyr yn cynyrchioli 22 Pwyllgor Cenedlaethol Olympaidd. Gwnaeth yr Ariannin, Ffindir, Twrci, a Seland Newydd eu ymddangosiad cyntaf yn y gemau fel tîm Awstralasia.
Cyfanswm Medalau
golyguDyma'r 10 cenedl a enillodd y cyfanswm uchaf o fedalau.
Safle | Cenedl | Aur | Arian | Efydd | Cyfanswm |
---|---|---|---|---|---|
1 | Prydain Fawr (cenedl gwesteiwyr) | 56 | 51 | 39 | 146 |
2 | Unol Daleithiau America | 23 | 12 | 12 | 47 |
3 | Sweden | 8 | 6 | 11 | 25 |
4 | Ffrainc | 5 | 5 | 9 | 19 |
5 | Yr Almaen | 3 | 5 | 5 | 13 |
6 | Hwngari | 3 | 4 | 2 | 9 |
7 | Canada | 3 | 3 | 10 | 16 |
8 | Norwy | 2 | 3 | 3 | 8 |
9 | Yr Eidal | 2 | 2 | 0 | 4 |
10 | Gwlad Belg | 1 | 5 | 2 | 8 |
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Australasia included Australia and New Zealand.
- ↑ The Grand Duchy of Finland was part of the Russian Empire at the time, but was treated as a separate nation.
- ↑ The Netherlands was typically referred to in early Olympic competition as "Holland" though the entire nation of the Netherlands was the entity in question rather than the region of the country formally named Holland; the IOC currently refers to all entries from the nation as from "Netherlands".