Reginald George Stapledon
gwyddonydd amaethyddol
Gwyddonydd amaethyddol o Loegr oedd Reginald George Stapeldon (22 Medi 1882 – 16 Medi 1960), ond a gofleidiodd Cymru am ran helaeth o'i oes. Yn Nyfnaint y cafodd ei eni, ac yng Nghaergrawnt y graddiodd. Cafodd ei benodi'n Gyfarwyddwr Bridfa Blanhigion Cymru yn 1900.
Reginald George Stapledon | |
---|---|
Ganwyd | 22 Medi 1882 Northam |
Bu farw | 16 Medi 1960 Caerfaddon |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwyddonydd, ecolegydd |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, CBE |
Gwair a meillion oedd ei brif faes ymchwil a daeth a bri mawr i'r fridfa yn ei dechnegau newydd i wella tir mynydd. Dywedodd Syr Reginald Dorman Smith (Gweinidog Amaeth yn 1937) i Stapeldon drwy ei ddatblygiadau gydag aredig tir yn allweddol yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac y bydda'r wlad wedi "llwgu i farwolaeth" heb ei gyfraniad pwysig.