Reginald Grey, 3ydd Barwn Grey de Ruthyn
Uchelwr Seisnig a thirfeddiannwr yng Nghymru oedd Reginald Grey, 3ydd Barwn Grey de Ruthyn (c. 1362 – 30 Medi 1440).[1] Mae'n fwyaf adnabyddus oherwydd ei gweryl ag Owain Glyndŵr, a fu'n un o'r digwyddiadau a arweiniodd ar wrthryfel Owain.
Reginald Grey, 3ydd Barwn Grey de Ruthyn | |
---|---|
Ganwyd | 1362 |
Bu farw | 30 Medi 1440 |
Galwedigaeth | llywodraethwr |
Swydd | Arglwyddi'r Mers |
Tad | Reginald Grey |
Mam | Alianore Lestrange |
Priod | Joan of Astley, Baroness Astley, Margaret de Ros |
Plant | John Grey, Margaret Grey, Lady Bonville, Edward Grey, Elizabeth Grey, Robert Grey, Joan Grey, Elizabeth Grey, Eleanor Grey, John Grey, of Kempston |
Llinach | House of Grey |
Roedd yn fab hynaf Reginald Grey, 2il Farwn Grey de Ruthyn ac Alianore Le Strange o Blackmere. Hawliodd gyfran o diroedd Owain Glyn Dŵr, ond yn ystod teyrnasiad Rhisiart II, penderfynwyd yr achos o blaid Owain. Wedi i Harri IV gipio'r orsedd, ail-agorodd de Grey yr achos, gan fanteisio ar y ffaith ei fod yn ffafr y brenin. Dywed rhai ffynonellau fod de Grey wedi oedi gyrru gwŷs gan y brenin i Owain yn hawlio cymorth milwrol yn yr Alban. Erbyn i Owain dderbyn y wŷs, roedd yn rhy hwyr iddo ymateb.
Yn Ionawr 1402, cymerwyd de Grey yn garcharor gan Glyn Dŵr gerllaw Rhuthun. Bu raid i de Grey dalu 10,000 o farciau am ei ryddid.
Pendefigaeth Lloegr | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Reginald Grey |
Barwn Grey de Ruthyn 1388–1440 |
Olynydd: Edmund Grey |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Sir Leslie Stephen; Sir Sidney Lee (1890). Dictionary of National Biography. Smith, Elder, & Company. t. 198.