Romulus a Remus
(Ailgyfeiriad o Remus)
Yn ôl y chwedl, sefydlwyr dinas Rhufain a thrwy estyniad yr Ymerodraeth Rufeinig oedd Romulus a Remus. Gefeilliaid oeddynt, meibion Mars a Rhea Silvia, merch chwedlonol Numitor, brenin Alba Longa. Cafodd yr efeilliaid ifainc eu taflu i Afon Tiber gan Amulius, oedd wedi diorseddu Numitor. Cawsant eu golchi i'r lan a'u magu gan fleiddes. Yn ddiweddarach fe'u darganfuwyd gan fugail a'u mabwysiadu ganddo.
Enghraifft o'r canlynol | twins in mythology, grŵp o gymeriadau chwedlonol |
---|---|
Rhan o | founding of Rome |
Yn cynnwys | Remus, Romulus |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn nes ymlaen sefydlasant ddinas Rhufain ar y llecyn lle cawsant eu golchi i'r lan. Cododd Romulus y ddinas ar Fryn Palatin. Y dyddiad traddodiadol am ei sefydlu ganddo yn y calendr Rhufeinig oedd 21 Ebrill 753 CC. Romulus oedd brenin cyntaf Rhufain.