Ren
Mae Ren Eryn Gill (ganwyd 29 Mawrth 1990), a adnabyddir yn broffesiynol fel Ren,[1] yn ganwr-gyfansoddwr,[2] cynhyrchydd, rapiwr, clerwr, bardd, ac aml-offerynnwr o Gymro sy'n adnabyddus am ei waith cerddorol yn cydweithredu gyda chantorion eraill.[3][4][5] Roedd yn aelod o'r band hip-hop indie Trick The Fox a The Big Push, band bysgio Prydeinig wedi'i leoli yn Brighton.[6]
Ren | |
---|---|
Enw (ar enedigaeth) | Ren Eryn Gill |
Llysenw/au | Ren |
Ganwyd | Bangor | 29 Mawrth 1990
Tarddiad | Dwyran, |
Gwaith | Canwr, cyfansoddwr, rapiwr |
Offeryn/nau | Gitâr, llais |
Cyfnod perfformio | 2009–presennol |
Label | Annibynnol |
Gwefan | sickboi.co.uk |
Yn 2022, rhyddhaodd Ren y trac "Hi Ren". Aeth y fideo yn feirol ac ymddangosodd yn Siartiau Fideo Cerddoriaeth 'Trending' y Deyrnas Unedig a’r Byd ar YouTube, a chafodd 6.8 miliwn o ymweliadau mewn dau fis.[7] Ymddangosodd y chwe chân nesaf a ryddhawyd gan Ren, “Sick Boi”, “Bittersweet Symphony (The Verve Retake)”, “Illest of Our Time”, “Animal Llif”, a “Suicide” hefyd yn Siart Fideo Cerddoriaeth Trending y Deyrnas Unedig ar YouTube. Gwahoddwyd Ren i chwarae yn Glastonbury 2023, gwyliau ffilm, a gwyliau cerddoriaeth haf mawr eraill y DU.
Mae Ren wedi treulio blynyddoedd yn brwydro yn erbyn problemau iechyd ac mae bellach yn ceisio codi ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl.[8]
Bywyd cynnar
golyguGaned Ren Erin Gill yn 1990, ym Mangor, Gwynedd,[9] ac fe'i magwyd yn Dwyran ar ynys Môn.[10] Dysgodd ei hun i chwarae gitâr trwy arafu traciau gan Jimi Hendrix a John Frusciante. Breuddwydiodd am fod yn gerddor a gwerthodd gryno ddisgiau o guriadau a wnaeth gartref ar ei gyfrifiadur personol gan ddefnyddio Reason pan oedd yn 12.[11] Pan oedd yn 13, perfformiodd yn fyw am y tro cyntaf gyda'i fersiwn o gân AFI "Morningstar".
Symudodd Ren i Gaerfaddon i astudio perfformio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bath Spa.[12] Tra yno, dechreuodd fand o'r enw Trick The Fox.[13] Yn 2009 cafodd Ren ei ddarganfod gan Eric Appapoulay tra'n bysgio un o'i ganeuon ei hun. Yn 2010 arwyddodd gontract recordio gyda Sony Records.[12] Aeth Ren i Lundain gydag Eric a dechreuodd weithio ar ei albwm gyntaf gyda Charlie Fowler, aelod arall o Trick the Fox, yn stiwdio Sanctuary yn Ne Llundain. Dechreuon nhw ysgrifennu traciau, teithio a recordio. Fe wnaethon nhw hefyd bostio rhai traciau a fideos i gyfrifon Facebook a YouTube y band,[14] ac ymunodd Tom Frampton â'r band.[4]
Aeth Ren yn rhy sâl i orffen yr albwm a bu'n rhaid iddo symud adref i Gymru. Roedd yn gorffwys yn y gwely am hyd at 23 awr y dydd.[12] Yn 2013 symudodd Ren i Brighton.[15] Mae Ren wedi treulio blynyddoedd lawer yn delio â materion iechyd. Yn y fideo i Hi Ren, mae'n sôn am ddelio ag awtoimiwnedd, salwch, a seicosis. Cafodd gamddiagnosis o iselder, anhwylder deubegwn, a syndrom blinder cronig ac yn ddiweddarach cafodd ddiagnosis o glefyd Lyme yng Ngwlad Belg.[16]
Tra yn ei ystafell wely, ysgrifennodd Ren ganeuon a recordiodd ei gerddoriaeth. Ar 2 Ionawr 2016, rhyddhawyd albwm unigol cyntaf Ren Freckled Angels. Roedd yr albwm a ryddhawyd ei hun yn cynnwys 16 o draciau, gan gynnwys tua hanner y traciau a recordiwyd ar gyfer albwm Trick The Fox. Rhoddodd Eric Appapoulay ganiatâd i Ren eu defnyddio. Cyflwynodd Ren yr albwm a'r trac teitl i un o'i ffrindiau gorau, Joe Hughes, a gyflawnodd hunanladdiad yn 2010.[16] Mae bwyty ym Mhorthaethwy, Ynys Môn wedi'i enwi ar ôl yr albwm hwn.[17] Ar 15 Chwefror 2016, rhyddhaodd Ren ei sengl swyddogol gyntaf, "Jessica".
Cafodd Ren sylw yn y ffilm 2017 Unrest, ac roedd ei gân "Patience" yn rhan o'r trac sain.[18] Daeth i ganmoliaeth eang ar ôl i'w fideo ar gyfer ei gân "Hi Ren" dderbyn 6.8 miliwn o weithiau mewn dau fis. Cafodd y fideo ar gyfer "Hi Ren" sylw anrhydeddus yn y categori fideo cerddoriaeth Ewropeaidd gorau yng ngwobrau fideo cerddoriaeth Prague ym mis Ebrill 2023.[19] Ym mis Chwefror 2023, rhyddhaodd Ren “retake” o gân Verve “Bitter Sweet Symphony”. Mynegodd chwaraewr bas Verve, Simon Jones, ei werthfawrogiad a chyflwynodd gitâr i Ren yn anrheg.
Yn ogystal â'i yrfa unigol, roedd Ren yn aelod o The Big Push, band bysgio o Brighton. Glenn Chambers oedd y drymiwr a Ren, Romain Axisa, Gorran Kendall oedd y dynion blaen.[20][21] Gwerthwyd pob tocyn ar gyfer eu taith drwy wledydd Prydain yn 2021.[20] Chwaraeodd The Big Push eu gig olaf a chwalodd yn 2022 yn rhannol oherwydd materion iechyd Ren.[2]
Cafodd Ren ei enwi’n un o Artists to Watch 2023 gan Atwood Magazine, a rhestrodd Société Magazine ef fel un o’r “Artistiaid Gorau i Edrych Amdanynt Yn Sussex”, [22] a galwodd y beirniad cerdd Gareth Branwyn ei gerddoriaeth yn “ddwys,” ac yn “adnewyddol unigryw”[23] a’i rapio yn “drawiadol”.[24]
Ym mis Mai 2023, cafodd Ren ei gyfweld gan Justin Hawkins o The Darkness ar sianel YouTube Hawkins. Ers ei salwch, mae Ren wedi dweud bod gwaith ei fywyd wedi bod yn gysylltiedig yn agos â chwilio am ffyrdd gwell o ddelio â materion iechyd meddwl.[25] Ers Ionawr 2023, mae wedi bod yng Nghanada yn derbyn triniaeth feddygol arbenigol ar gyfer ei salwch. Ym mis Mehefin 2023, cyflwynodd Ren siec o £21,000 i griw'r RNLI ym Miwmares, Ynys Môn.[26] Roedd wedi defnyddio ei statws fel cerddor i gael ei gefnogwyr i godi’r arian, i gydnabod gwaith gwych yr RNLI yn achub bywydau pobl a’r ymdrech a wnaethpwyd ganddynt i geisio dod o hyd i’w ffrind Joe Hughes, a neidiodd o Bont Menai yn 2010.[27]
Ar 20 Hydref 2023, aeth ei albwm Sick Boi i rif un yn siart albymau swyddogol y DU. Roedd yn ras agos yn erbyn Rick Astley a Drake.[28]
Disgyddiaeth
golyguAlbymau stiwdio
golyguTeitl | Manylion albwm |
---|---|
Freckled Angels |
|
Sick Boi |
|
E.P.
golyguTeitl | Manylion EP |
---|---|
The Tale of Jenny & Screech |
|
Demos (Do Not Share), Vol 1 |
|
Demos (Do Not Share), Vol 2 |
|
Violet's Tale |
|
Senglau
golyguBlwyddyn | Teitl | Albwm |
---|---|---|
2018 | "Girls!" | Senglau nid ar albwm |
"Blind Eyed" | ||
"Children Of The Moon" | ||
2019 | "Humble" | |
"Money Game" | ||
"How to Be Me" | ||
2021 | "Chalk Outlines" | |
2022 | "Power" | |
"Violet's Tale" | ||
"The Hunger" | SickBoi | |
"Genesis" | ||
"What You Want" | ||
"Hi Ren" | ||
2023 | "Sick Boi" | |
"Illest Of Our Time" | ||
"Animal Flow" | ||
"Suicide" | ||
"Murderer" |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Singer-Songwriter Ren's Raw Depictions of Mental Health Strike a Chord". Psychiatrist.com (yn Saesneg). 2023-06-20. Cyrchwyd 2023-06-27.
- ↑ 2.0 2.1 "Ren Gill, the musician who has defied all odds". Fahrenheit Magazine (yn Saesneg). 2023-05-22. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-05-24. Cyrchwyd 2023-05-24.
- ↑ Llywelyn, Lowri (8 March 2023). "Ren - the Welsh musician attracting millions to his extraordinary music". Nation.Cymru. Cyrchwyd 13 March 2023.
- ↑ 4.0 4.1 "Ren – Hi Ren Featured Video". REZONATZ (yn Saesneg). 2022-12-27. Cyrchwyd 2023-05-15.
- ↑ Smith, Bob (2023-01-06). "Ren's Poignant, Disturbing & Brilliant 'Hi Ren' - The Static Dive". The Static Dive (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-01-20.
- ↑ Conway-Flood, Katie. "The Big Push - Brighton's Biggest Busking Band". Discovered Magazine (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-01-26. Cyrchwyd 2022-12-29.
- ↑ Songstats. "Songstats - Music Data Analytics for Artists & Labels - Feed". Songstats (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-02-28.
- ↑ "Star raises thousands for RNLI team who tried to find his missing friend". MSN (yn Saesneg). 2023-06-26. Cyrchwyd 2023-06-29.
- ↑ "Ren Erin Gill - Births & Baptisms [1] - Genes Reunited". Genes Reunited. Cyrchwyd 2023-03-14.
- ↑ Hawkins, Justin. "The Ren Interview". YouTube (yn Saesneg). Cyrchwyd 1 May 2023.
- ↑ "Catching Coffee with Ren | Busking, Screaming Fans & Being Blocked by Calvin Harris!". YouTube (yn Saesneg). 2 April 2020. Cyrchwyd 27 December 2022.
- ↑ 12.0 12.1 12.2 Winchell, Bryan (2023-02-28). ""Hi, Ren" (The Full Series)". Medium (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-03-12.
- ↑ Stewart, Peter (2023-02-14). "Ren Gill A Dynamic Singer, Guitarist And Songwriter From The UK". The Music Man (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-02-24.
- ↑ "TRICK THE FOX | The Sanctuary Studio". The Sanctuary Recording Studio (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-02-20.
- ↑ "Life update". Twitter (yn Saesneg). 2013-02-02. Cyrchwyd 2023-05-04.
- ↑ 16.0 16.1 Reilly, Nick (2023-06-09). "Meet Ren, the viral songwriter who finds beauty in the bleakest of situations". Rolling Stone (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-06-09.
- ↑ Julie, Richards-Williams (16 December 2017). "North Wales restaurant review: Freckled Angel, Menai Bridge". North Wales Live (yn Saesneg). Cyrchwyd 13 March 2023.
- ↑ "'Unrest' - UK Screenings". Lyme Disease UK (yn Saesneg). 2017-10-01. Cyrchwyd 2023-03-17.
- ↑ "WINNERS". Prague Music Awards (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-04-05. Cyrchwyd 2023-05-01.
- ↑ 20.0 20.1 Clay, William (2021-07-06). "The Big Push – interview". BN1 Magazine (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-05-14.
- ↑ Olivia, Reese (2021-06-30). "The Big Push – Can Do, Will Do". Highwire Magazine (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-05-14.
- ↑ Staff. "Best Artists In Brighton". Société Magazine (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-02-04.
- ↑ Branwyn, Gareth (2023-01-30). "Discovering the intense, refreshingly unique music of Ren". Boing Boing (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-05-14.
- ↑ Branwyn, Gareth (2023-04-01). "UK rapper Ren releases video for "Illest of Our Time"". Boing Boing (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-05-14.
- ↑ "After pushing back on the misrepresentation by @CNN they updated their video". Twitter (yn Saesneg). 2023-04-30. Cyrchwyd 2023-05-04.
- ↑ Herddate, George (2023-06-28). "New music star wants mental health conversations". BBC} (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-06-29.
- ↑ "Anglesey singer raises £21,000 for voluntary RNLI crews who searched for his best friend". ITV News (yn Saesneg). 2023-06-28. Cyrchwyd 2023-06-28.
- ↑ "Ren: Rhif un y siartiau yn 'fuddugoliaeth' i'r Cymro". BBC Cymru Fyw. 2023-10-20. Cyrchwyd 2023-10-20.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan swyddogol
- Disgyddiaeth Ren ar Discogs
- Ren ar Bandcamp
- Ren ar SoundCloud