Reykjanesbær

Bwrdeisdref Reykjanesbær

Mae Reykjanesbær yn fwrdeistref gymharol newydd ar benrhyn yn orllewin Gwlad yr Iâ, Penrhyn y De neu Reykjanesskagi fel y'i gelwir. Ystyr yr enw yw tref y mwg yn Islandeg. Mae'n cynnwys y trefi Keflavík, Njarðvík, a phentref Hafnir, ac, ers 2006 Ásbrú. Crewyd y bwrdeisdref yn 1994 pan bleidleisiodd y tair tref o blaid uno. Gydag oddeutu 18,000 o drigolion, Reykjanesbær yw'r bumed fwrdeistref fwyaf yng Ngwlad yr Iâ o ran poblogaeth.

Reykjanesbær
MathCymunedau Gwlad yr Iâ Edit this on Wikidata
Poblogaeth18,920 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethKjartan Már Kjartansson Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iKerava, Orlando, Florida, Bwrdeistref Trollhättan Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Islandeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirReykjanesskagi Edit this on Wikidata
GwladBaner Gwlad yr Iâ Gwlad yr Iâ
Arwynebedd145 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaSuðurnesjabær, Grindavíkurbær, Vogar Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau64.0011°N 22.5519°W Edit this on Wikidata
Cod post230, 232, 233, 235, 260 Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethKjartan Már Kjartansson Edit this on Wikidata
Map
Tref Keflavik o'r harbwr
Eglwys Hafnir

Gorwolwg golygu

 
Keflavík

O'r tair tref sy'n ffurfio'r fwrdeistref, Keflavík yw'r mwyaf, tra Hafnir yw'r lleiaf a rhyw 10 km o bellter. Roedd Keflavík a Njarðvík yn drefi gwahanol yn wreiddiol, ond tyfodd yn raddol gyda'i gilydd yn ystod hanner olaf yr 20g, nes mai dim ond un stryd oedd yr unig beth sy'n eu gwahanu. Roedd ochr ogleddol y stryd yn perthyn i Keflavík a'r ochr ddeheuol i Njarðvík. Ers mis Mai 2009 bu treflab Njarðvík yn lleoliad Amgueddfa'r Llychlynwyr (Viking World Museum).

Yn 2006, pan gaeodd Unol Daleithiau America eu presenoldeb yn Gorsaf Awyr y Llynges yn Keflavik, cafodd y safle ei gymryd drosodd gan yr asiantaeth ddatblygu Kadeco, a'i hailenwi yn Ásbrú. Sefydlwyd prifysgol brefiat ni-er-elw Keilir (Atlantic Centre of Excellence: Keilir, miðstöð vísinda, fræða og atvinnulífs) yno yn 2007.[1] byn hyn mae Ásbrú yn gartref i gampysau sefydliadau addysgol amrywiol a hefyd busnesau, wedi'u sefydlu'n newydd ac wedi'u symud i safle'r awyr.

Gefalldrefi golygu

Dyma gefelldrefi Reykjanesbær:

  •  Kerava, Y Ffindir
  •  Kristiansand, Norwy[2]
  •  Miðvágur, Ynysoedd y Ffaroe
  •  Orlando, Florida, UDA[3]
  •  Trollhättan, Sweden

Atyniadau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. [1] Archifwyd 2007-08-30 at the National and University Library of Iceland University of Iceland
  2. "Internasjonalt arbeid". www.kristiansand.kommune.no. Archifwyd o'r gwreiddiol ar March 5, 2011. Cyrchwyd 2016-06-18.
  3. "Online Directory: Iceland, Europe". www.sister-cities.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar August 24, 2004. Cyrchwyd 2016-06-18.