Ffylwm
(Ailgyfeiriad o Rhaniad (bioleg))
Rheng tacson yw ffylwm (lluosog: ffyla) a ddefnyddir i ddosbarthu'n wyddonol organebau byw (anifeiliaid, planhigion ayb). Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio o fewn bywydeg ar gyfer ffosiliau ac organebau a ddifodwyd. Ceir hefyd 'is-ffylwm'. Mae'n gyfystyr â'r termau rhaniad neu adran a ddefnyddir yn aml mewn botaneg.