Rhedynen-Fair Siapan
Athyrium niponicum | |
---|---|
Athyrium niponicum 'Pictum' | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Unrecognized taxon (fix): | Athyrium |
Rhywogaeth: | A. niponicum |
Enw deuenwol | |
Athyrium niponicum (Mett.) Hance |
Rhywogaeth o redyn sy'n frodorol i ddwyrain Asia yw Athyrium niponicum, sef y redynen-Fair Siapan [1] . [2]
Ailddiffiniwyd y rhywogaeth hon fel aelod o genws Anisocampium yn 2011 ar sail dadansoddiadau ffylogenetig, [3] ond mae'r genws i'w weld yng ngenws Athyrium ers hynny. [4]
Mae gan y rhedynen gollddail hon risom ymgripiol ac amrywiaeth o ffrondau ffurf-clwstwr. Mae hyd y ffrondau yn amrywio, yn gyffredinol 30 i 75 centimetr o hyd ond weithiau maen't yn dros fedr o hyd. Mae'r dail sydd wedyn yn cael eu hisrannu, yn tyfu'n bob yn ail ar hyd y coesyn. Mae'r sori sy'n dwyn sborau ar ochr isaf y dail ffrwythlon yn amrywio o ran ffurf, gallent unai fod ar ffurf "hirgul, bachyn, ffurf llythyren 'J', neu ffurf pedol". [2]
Mae'r epithet Lladin penodol niponicum yn golygu "yn ymwneud â Siapan (Nippon)". [5]
Mae hwn yn rhedyn sy'n cael ei drin yn gyffredin, yn enwedig A. niponicum amr. pictum . Mae'n ffynnu mewn sawl math o amodau gardd cysgodol ac yn cynhyrchu cytrefi trwchus o ffrondau llwydwyrdd gyda chanol cochlyd. [6] Ystyrir 'Pictum' hefyd yn gyltifar ; mae mathau a chyltifarau yn cael eu bridio i greu asen ganol mewn sawl arlliw o goch. [7]
Mae A. niponicum amr. pictum wedi ennill Gwobr Teilyngdod Gardd y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol . [8] fel y mae'r cyltifar 'Silver Falls'. [9]
Cyfeiriadau golygu
- ↑ Athyrium niponicum. Integrated Taxonomic Information System (ITIS).
- ↑ 2.0 2.1 Anisocampium niponicum. Flora of China. eFloras.
- ↑ Liu, Y.-C., et al. (2011). Molecular phylogeny and taxonomy of the fern genus Anisocampium (Athyriaceae). Archifwyd 2014-02-22 yn y Peiriant Wayback. Taxon 60(3) 824-30.
- ↑ PPG I (2016). "A community-derived classification for extant lycophytes and ferns". Journal of Systematics and Evolution 54 (6): 563–603. doi:10.1111/jse.12229.
- ↑ Harrison, Lorraine (2012). RHS Latin for Gardeners. United Kingdom: Mitchell Beazley. ISBN 184533731X.
- ↑ Athyrium niponicum var. pictum. Missouri Botanical Garden.
- ↑ Perry, L. Japanese Painted Fern. University of Vermont Extension, Department of Plant and Soil Science.
- ↑ "RHS Plantfinder - Athyrium niponicum var. pictum". Royal Horticultural Society. Cyrchwyd 12 January 2018.
- ↑ "RHS Plantfinder - Athyrium niponicum var. pictum 'Silver Falls'". Royal Horticultural Society. Cyrchwyd 19 January 2018.