Rheilffordd Alberni Pacific

Mae Rheilffordd Alberni Pacific yn rheilffordd dreftadaeth ar Ynys Vancouver, Canada. Mae gorsaf y rheilffordd ym Mhort Alberni ac mae’r rheilffordd yn mynd trwy’r coetir cyfagos i’r harbwr a Melin McLean.[1] Oherwydd problemau gyda boeler y locomotif (locomotif Cwmni Baldwin 1929), dydy'r rheilffordd ddim wedi bod yn weithredol ers 2019.[2]

Rheilffordd Alberni Pacific
Enghraifft o'r canlynolrheilffordd dreftadaeth Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1912 Edit this on Wikidata
Map
PencadlysPort Alberni Edit this on Wikidata
GwladwriaethCanada Edit this on Wikidata
RhanbarthPort Alberni Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.islandrail.ca/rail/port-alberni-railway/ Edit this on Wikidata

Adeiladwyd yr orsaf ym 1911-12 ar gyfer Rheilffordd y Canadian Pacific. Prynwyd yr adeilad gan ddinas Port Alberni, at atgyweiriwyr yr adeilad gan wirfoddolwyr ym 1990. Mae’r orsaf ar gofrestr safleoedd hanesyddol Canada.[3]


Locomotifau Stêm golygu

Locomotif Shay golygu

 
Y Shay

Locomotif sy’n dyddio o 1912.

Buda golygu

Locomotif petrol 1928, yn wreiddiol o Waith Haearn Westminster.

Locomotif Baldwin 2-8-2T golygu

 
Y locomotif Baldwyn a thrên

Rhif 7; y locomotif sy arfer yn gweithredu ar y rheilffordd.[4]

locomotifau diesel golygu

Rhif 11 golygu

Adeiladwyd rhif 11 ym 1942. Defnyddir y locomotif ar drenau os dydy’r locomotifau stêm ddim ar gael.

Rhif 8427 golygu

Mae 8427 yn locomotif ALCO RS-3, adeiladwyd ym 1954 ar gyfer Rheilffordd Canadian Pacific. Prynwyd y locomotif gan Crown Zellerbach Cyf ar gyfer gwaith fforestiaeth yn Ladysmith, Columbia Brydeinig. Prynwyd y locomotif gan [[Cymdeithas Hanesyddol Dywidiannol Gorllewin Ynys Vancouver tua 1994/5.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Gwefan y rheilffordd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-06-30. Cyrchwyd 2020-05-22.
  2. "Gwefan albernichamber.ca". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-25. Cyrchwyd 2020-05-22.
  3. Gwefan historicplaces.ca
  4. Gwefan visitorinvictoria.ca

Dolen allanol golygu