Rheilffordd Bae'r Ynysoedd
Agorwyd Rheilffordd Bae'r Ynysoedd (Saesneg: Bay of Islands Vintage Railway) rhwng Kawakawa ac Opua, yn rheilffordd dreftadaeth, yn y 1980au. Mae'r rheilffordd yn 11.5 cilomedr o hyd. Oherwydd problemau, caewyd y rheilffordd yn 2006 ond erbyn hyn mae trenau'n myndo o Kawakawa i Taumarere, 4 cilomedr i ffwrdd.[1]
Rheilffordd Bae'r Ynysoedd Bay Of Islands Vintage Railway | |
---|---|
Gabriel yn gyrru dros Bont Pump. | |
Ardal leol | Kawakawa, Bae'r Ynysoedd, Northland, Seland Newydd |
Terminws | Taumarere |
Gweithgaredd masnachol | |
Enw | Cangen Opua |
Adeiladwyd gan | Glofeydd Kawakawa (Kawakawa - Taumarere) Rheilffyrdd Llywodraeth Seland Newydd (Otiria - Kawakawa, Taumarere - Opua) |
Maint gwreiddiol | 1435mm (cledrau) 1067mm (rheilffordd) |
Yr hyn a gadwyd | |
Perchnogion | Rheilffordd Hynafol Bae'r Ynysoedd |
Gorsafoedd | Dwy |
Hyd | 11.5km (cyfanswm) |
Maint 'gauge' | 1067mm |
Hanes (diwydiannol) | |
Agorwyd | 1868 (fel tramffordd) |
Caewyd | 1985 |
Hanes (Cadwraeth) |
Hanes
golyguDarganfuwyd glo yn Kawakawa ym 1864, ac ym 1868, adeiladwyd rheilffordd 4 cilomedr o hyd i gludo glo o'r lofa i Taumerere ar Afon Kawakawa. Estynnwyd y lein i Opua ym 1884, a daeth Opua'n borthladd. Adeiladwyd yr orsaf bresennol yn Kawakawa ym 1911.[1]
Rhif 1730, Gabriel
golygu4-4-0T, 28 tunnell. Adeiladwyd gan gwmni Thomas Peckett ym Mryste ym 1927. Adeiladwyd 4 locomotif arall o'r un dosbarth; aeth 2 i Iwerddon ac y 2 arall i Borneo. Dim ond Gabriel sy'n weddill. Llogwyd o gwmni Sement Portland Wilson, ger Whangarei ym 1985, cyn i'r rheilffordd ei brynnu.
Rhif 1645, Thomas
golygu0-6-0ST. Adeiladwyd gan gwmni Thomas Peckett ym Mryste ym 1923 ar gyfer Cwmni Glo Pukemiro, De Auckland, a gweithiodd yno hyd at 1958. Daeth yn rhan o faes chwarae wrth y Lein Pukemiro, rheilffordd dreftadaeth ar y lein o Huntly i bwll glo Pukemiro. Yn 2015 roedd angen ailadeiladu'r injan.
Rhif 2730, Charlie
golygu0-6-0 efo peiriant Gardner. Adeiladwyd ym 1967 yn Burton upon Trent. Gweithiodd ar Reilffordd Seland Newydd rhwng 1954-1986 ac efo Steam Incorporated rhwng 1986-1994. Mae ar Reilffordd Bae'r Ynysoedd ers hynny, ar fenthyg o Graham Winterbourne. Fe'i defnyddir i wella'r lein.
Rhif 184, Freddie
golygu0-4-0 efo peiriant Gardner. Adeiladwyd ym 1958 yn Thames, Seland Newydd gan A & G Price. Fe'i defnyddiwyd yng Nglofa Glen Afton, Huntly, ag wedyn gan Grŵp Llaeth Seland Newydd. Cyrhaeddodd y rheilffordd ym 1986. Enwyd yr injan ar ôl Friedensreich Hundertwasser, noddwr y rheilffordd a phensaer y toiledi enwog yn y pentre.
Rhif 3659, Ruby
golygu0-4-0 efo peiriant Cummins. Adeiladwyd ym 1973 gan Baguley-Drewry yn Burton upon Trent. Gweithiodd dros AFFCO ym Moerewa. Prynwyd ar wefan TradeMe gan gefnogwraig ddi-enw y rheilffordd, ar amod bod y locomotif yn cael ei pheintio'n goch ac yn cael yr enw 'Ruby'.
Rhif 1137, Sweetie
golyguYn wreiddiol, injan stêm 0-6-2T; 0-6-0 erbyn hyn. Adeiladwyd ym 1896 gan Gwmni Avonside yn Addington, Seland Newydd. Gweithiodd ar Reilffordd Seland Newydd hyd at 1944 cyn trosglwyddo i Gwmni AFFCO]]. Methodd ei foeler ym 1952, a newidiwyd ef yn locomotif diesel. Prynwyd ym 1994 gan y rheilffordd. Nid oes peiriant ynddo ar hyn o bryd.
Rhif 187, Timmy
golygu0-4-0 efo peiriant Gardner 6L3. Adeiladwyd gan A & G Price ym 1959. Cyrhaeddodd y rheilffordd yn 2012 o weithdy Otahuhu. Enwyd ar ôl ei berchennog, Tim Edney; mae ar fenthyg parhaol i'r rheilffordd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Tudalen hanes ar wefan y rheilffordd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-01-13. Cyrchwyd 2015-02-17.
- ↑ "tudalen locomotifau stêm y rheilffordd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-01-13. Cyrchwyd 2015-02-17.
- ↑ "tudalen locomotifau diesel y rheilffordd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-01-13. Cyrchwyd 2015-02-17.