Rheilffordd Bwlch Weka

Mae Rheilffordd Bwlch Weka yn Rheilffordd Treftadaeth yn Waipara, yng Ngogledd Canterbury, ar Ynys y De, Seland Newydd. Mae'n rhan o'r hen lein i Waiau ac yn estyn am 12 cilomedr rhwng Waipara a Waikari.

Y ddau locomotif Dg ar gopa Bwlch Weka

Hanes golygu

Cwblhawyd rhan cyntaf y lein trwy Bwlch Weka i Waikari ym 1882. Estynnwyd y lein i Medbury ym 1884, Culverden ym 1886 ac i Waiau ym 1919. Disgwylwyd y lein i fod yn rhan o'r brif lein i'r gogledd rhwng Picton a Christchurch, ond penderfynwyd mynd ar hyd yr arfordir dwyreiniol. Caewyd y lein yn Ionawr 1978, a dymchwelwyd rhai o'r adeiladau'n syth, er goroesodd y cledrau tan 1982.

Ailfywiad golygu

Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn Waipara yn Awst 1982, a sefydlwyd pwyllgor, yn cynnwys pobl lleol a selogion o Reilffordd Ferrymead. Sefydlwyd Cymdeithas yn Rhagfyr 1982,[1] a chynhaliwyd trafodaethau rhwng y Gymdeithas a Rheilffyrdd Seland Nwydd i brynu'r lein, locomotifau a cherbydau. Ym Mai 1983, cynhaliwyd ffair, yn defnyddio locomotifau o Ferrymead a Steamscene, Ynys McLean. Cyrhaeddodd locomotifau a cherbydau yn Rhagfyr 1983,,[1] a phrynwyd 30 cilomedr o'r lein o Waipara i'r Afon Hurunui, a dechreuodd gwasanaeth trên ar 2 cilomedr cyntaf y lein o Waipara ym 1984, yn defnyddio'r locomotifau diesel,[1] ac yn hwyrach i Graig Llyffant, ar gopa Bwlch Weka. Estynnwyd y gwasanaeth i Herberts Crossing yn Ebrill 1985 ac i Waikari erbyn mis Rhagfyr. Prynwyd ac adeiladwyd gorsafoedd Glenmark a Waikari, a sied i'r locomotifau yn Waipara.[1]

Achoswyd difrod mawr gan law trwm ym 1986, a phenderfynwyd cau'r lein i'w thrwsio. Penderfynwyd codi'r cledrau y tu hwnt i Waikari. Cwblhawyd gwaith sylweddol ar gwrs y lein i ddatrys problemau o dirlithriadau difrifol. Defnyddiwyd cledrau o'r rhan oedd newydd cael eu codi er mwyn trwsio'r lein rhwng Waipara a Waikari. Erbyn Ebrill 1987 roedd gwasanaeth wedi ailddechrau o Waipara am 5.5 cilomedr.

Estynnwyd y lein unwaith eto hyd at Frog Rock ym 1991 ac i Herberts Crossing ym 1992. Atgyweiriwyd traciau ac adeiladau yn Waikari, ac ailagorwyd y lein ym 1999.[1] Does dim gorsaf yn ardal Frog Rock, ond mae trenau'n stopio i roi cyfle i'r teithwyr i dynnu lluniau'r trên.

Locomotifau golygu

Stêm golygu

 
Dosbarth A NZR A Rhif.428 yn Waikari.

Adeiladwyd dosbarth A 4-6-2 rhif 428 ar gyfer Rheilffyrdd Seland Newydd yn Thames ym 1909. Atgyweirwyd rhif 428 dros cyfnod o 10 mlynedd.

Diesel golygu

 
Y ddau locomotif Dg yn Waipara

Adeiladwyd y ddau locomotifau diesel trydanol Dg, rhifau 2232 a 2468 ym 1955.[2] gan Gwmni English Electric. Maent yn cynhyrchu 750 marchnerth. Defnyddir y ddau ar Reilffordd Bwlch Weka fel arfer cefn wrth gefn ac yn cael eu defnyddio pan mae A428 yn cael atgyweiriad, neu yn yr haf os mae locomotifau stêm wedi cael eu gwahardd oherwydd perygl tân.[3]

Injan diesel trydanol Mitsubishi rhif 822, adeiladwyd ym 1967 a phrynwyd oddi wrth Rail Base Systems ym 1992. Defnyddir ar gyfer siyntio, neu ar drenau gwaith.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 "Gwefan Hurunui Gateway". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-05-04. Cyrchwyd 2013-08-20.
  2. "Cofrestr Locomotifau Diesel". Cofrestr Cerbydau Rheilffordd Seland Newydd. Cyrchwyd 24 July 2012.
  3. "Gwefan twristiaeth Hurunui". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-11-10. Cyrchwyd 2013-08-20.

Dolen allanol golygu