Rheilffordd Driving Creek

Mae Rheilffordd Driving Creek yn rheilffordd i dwristiaid ar Benrhyn Coromandel ar Ynys y Gogledd, Seland Newydd. Gwelir gwaith celf o’r crochendy yn ystod y daith.

Rheilffordd Driving Creek
Mathgwarchodfa natur, oriel gelf, pottery studio, llinell rheilffordd, rideable miniature railway Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Seland Newydd Seland Newydd
Cyfesurynnau36.737087°S 175.504378°E Edit this on Wikidata
Hyd2.7 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Terminws y rheilffordd

Crewyd rheilffordd lled 266 milimedr[1] gan Barry Brickell ar ôl iddo sefydlu gweithdy crochenwaith ar y safle ym 1973, er mwyn symud clai a choed. Cafodd drwydded i gludo teithwyr ym 1990. Lled y trac presennol yw 381 milimedr, yn disodli ei reilffordd gynharach. Adeiladwyd y locomotifau a cherbydau yng ngweithdy’r rheilffordd.[2]. Cariwyd y teithwyr cyntaf ym 1988, ac mae teithwyr wedi talu ers 20 Hydref 1990.

Locomotifau a Threnau

golygu

Dieselmouse

golygu

Locomotif 0-4-0, adeiladwyd ym 1976. Dal ar waith.

Elephant

golygu

Locomotif diesel 0-4-4-0 gyda pheiriant Ford. Cludodd teithwyr yn wreiddiol. Erbyn hyn yn gweithio ar drenau gwaith.

Mae gan y 3 thrên beirannau diesel, yn achos Possum, Snake a Linx, wedi gosod ynghanol y trên. Mae ganddynt hefyd drawsyriant hydrolig a breciau awyr.[3]r[4]

Possum

golygu

Adeiladwyd ‘Possum’ ym 1994. Mae ganddo 14 sedd.

Adeiladwyd ‘Snake’ ym 1992. Mae’n uned 3 cherbyd, yn dal 36 o bobl.

Adeiladwyd ‘Linx’ yn 2004. Mae’n uned 3 cherbyd, yn dal 36 o bobl.

Locomotifau a cherbydau eraill

golygu

Mae 2 locomotif diesel a sawl wagen ar gyfer gwaith ar y lein neu yn y coedwigoedd.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan engineeringnz.org[dolen marw]
  2. "Gwefan y rheilffordd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-01-08. Cyrchwyd 2018-12-31.
  3. "Gwefan y rheilffordd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-01-08. Cyrchwyd 2018-12-31.
  4. Gwefan engineeringnz.org[dolen marw]

Dolen allanol

golygu