Rheilffordd y Fan
Roedd Rheilffordd y Fan yn rheilffordd led safonol yng nghanolbarth Cymru. Adeiladwyd y rheilffordd o’r pyllau plwm yn y Fan, ger Llanidloes i Reilffordd y Cambrian yng Nghaersws.[1] Roedd y rheilffordd yn fenter gan yr Iarll Vane, cadeirydd Rheilffordd y Cambrian. Adeiladwyd y rheilffordd gan David Davies o Landinam. Rheolwr y rheilffordd oedd John Ceiriog Hughes. Aeth y rheilffordd i’r gorllewin, yn dilyn Afon Gerist ac Afon Drannon gyda arhosfeydd ger Penisafmanledd a'r Fan. Agorwyd y rheilffordd ar gyfer trenau nwyddau ar 14 Awst 1871. Roedd trenau i deithwyr rhwng 1 Rhagfyr 1873 a 1879. Caewyd y pyllau plwm yn yr 1890au, a chaewyd y rheilffordd ym 1893.[2] Roedd angen ar Reilffordd y Cambrian am falast, felly ail-agorwyd y rheilffordd gan y Cambrian, yn defnyddio locomotifau’r Rheilffordd Fan ym 1896, ac ail-agorwyd y pyllau hefyd, hyd at oddeutu 1920. Daeth y rheilffordd yn rhan o Reilffordd y Great Western ym 1923. Caewyd y rheilffordd ar 2 Tachwedd 1940.[3]
Enghraifft o'r canlynol | llinell rheilffordd |
---|---|
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cozens, Lewis (1972). The Mawddwy, Van and Kerry Railways with the Hendre-Ddu and Kerry Tramways (yn Saesneg). Lingfield: Oakwood Press. tt. 42–44. ISBN 9780853611059.
- ↑ Grant, Donald (2017). Directory of the railway companies of Great Britain (yn Saesneg). Kibworth Beauchamp, Leicestershire: Matador. t. 578. ISBN 9781788037686.
- ↑ Willan, T. S.; White, H. P. (1962). "A Regional History of the Railways of Great Britain. Vol. II. Southern England.". The Economic History Review 14 (3): 572. doi:10.2307/2591906. ISSN 0013-0117. http://dx.doi.org/10.2307/2591906.