Llanidloes

tref a chymuned ym Mhowys

Tref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Llanidloes.[1] Cyfeirir y dref ar lafar, yn aml, fel Llani. Saif yn ardal Maldwyn ar lan Afon Hafren. Mae Caerdydd 110.4 km i ffwrdd o Lanidloes ac mae Llundain yn 257.4 km. Y ddinas agosaf ydy Henffordd sy'n 71.2 km i ffwrdd. Gorsaf reilffordd Caersws yw'r un agosaf, 6 milltir i ffwrdd. Crëwyd dau lwybr yn 2006, sef Sarn Sabrina 25 milltir o hyd) a Semi Sabrina (12 milltir), yn dechrau o Lanidloes.[2][3]

Llanidloes
Mathtref, cymuned Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iDerwal Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
GerllawAfon Hafren Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.449°N 3.5402°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000315 Edit this on Wikidata
Cod OSSN954845 Edit this on Wikidata
Cod postSY18 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRussell George (Ceidwadwyr)
AS/auCraig Williams (Ceidwadwr)
Map
Canol Llanidloes

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[4] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[5]

Hanes golygu

Yn ôl traddodiad, sefydlwyd llan ar safle Llanidloes gan Sant Idloes (fl. 6ed-7g).

Canodd y bardd canoloesol Gruffudd ab Adda ap Dafydd gywydd i'r fedwen a dorrwyd i wneud pawl haf yn Llanidloes. Mae'n un o'r cywyddau canoloesol mwyaf adnabyddus.[6] Mae'n cyferbynu harddwch ac urddasrwydd byd natur â hyllni ac anghyfiawnder y dref a phopeth a gynrychiolir ganddi, tref lle gosodwyd y fedwen ddifethiedig yn ymyl y pilori cyhoeddus.[7] Llanidloes oedd y pentref lle magwyd y merthyr Rhisiart Gwyn.[8]

Erbyn diwedd y 18g, Roedd y dref yr un bwysicaf ym Maldwyn ar rhan cynhyrchu gwlan a gwlanen, ond yn raddol, daeth Y Drenewydd yn bwysicach, a hefyd symudodd cynhyrchiad o dai i ffatrioedd.[9]. Agorwyd Cyfnewydfa Wlanan yn Llanidloes ym 1838, ond erbyn 1913 roedd y felin olaf wedi cau.

 
Melin Penybont
 

Roedd y dywidiant plwm yn bwysig i’r dref, oherwydd y pwllau Van gerllaw. Erbyn 1876 roeddent ymysg pyllau mwyaf cynhyrchiol y byd, yn rhoi gwaith i dros 500 o bobl. Sefydlwyd ffowndri yn y dref ym 1851, ac adeiladwyd nifer fawr o gapeli a siopau yn ystod y cyfnod.[10]

 
Ffotograff gan John Thomas o Lanidloes yn 1881

Enwogion golygu

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[11][12][13]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanidloes (pob oed) (2,929)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanidloes) (439)
  
15.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanidloes) (1825)
  
62.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanidloes) (556)
  
39.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
5%

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. Gwefan Llanidloes
  3. Gwefan Llanidloes
  4. Gwefan Senedd Cymru
  5. Gwefan Senedd y DU
  6. Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru.
  7. 'Y Fedwen yn Bawl Haf'. Thomas Parry (gol.), Blodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg.
  8. Davies, John (2008). The Welsh Academy Encyclopedia. Caerdydd: University of Wales Press. t. 501. ISBN 978-0-7083-1953-6.
  9. Jenkins J. G. The Welsh Woollen Industry
  10. Gwefan history.powys.org.uk
  11. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  12. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  13. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.

Dolen allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.