Rheilffordd Foxfield

Mae Rheilffordd Foxfield yn rheilffordd dreftadaeth ger Blythe Bridge yn Swydd Stafford.

Y rheilffordd wreiddiol golygu

Adeiladwyd y rheilffordd wreiddiol ym 1893 er mwyn cysylltu Glofa Foxfield, ger Dilhorne â’r Rheilffordd Gogledd Swydd Stafford yn Blythe Bridge. Mae;r rheilffordd yn cynnwys graddfa 1 i 19 am dros hanner filltir. Adeiladwyd y rheilffordd gan weithwyr y Rheilffordd Gogledd Swydd Stafford o dan arweiniaeth Noah Stanier.[1]

Atgyfodi golygu

Cymerodd cwmni prosesu mwynau drosodd ym 1965 er mwyn cludo mwynau i’r brif reilffordd, ac yn gydamserol, ffurfiwyd cymdeithas i redeg trenau ar gyfer teithwyr dros penwythnosau. Ni ddechreuodd trenau nwyddau, ond prynodd y gymdeithas locomotif stêm ym 1967. Dechreuodd gwasanaeth i deithwyr ar 14 Mai 1967. Erbyn hyn (2017) mae gan y gymdeithas dros 30 o locomotifau, rhai ohonynt mewn amgueddfa yn y brif orsaf.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Tudalen hanes ar wefan y rheilffordd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-04-05. Cyrchwyd 2017-12-20.
Rheilffordd Foxfield
 
Bank Top
 
Pwll Glo Foxfield
 
Parc Dilhorne
 
Fordd Caverswall