Rheilffordd Glenbrook
Mae Rheilffordd Glenbrook yn rheilffordd treftadaeth, 7.5 cilomedr o hyd, rhwng Glenbrook a Waiuku ar Ynys y Gogledd, Seland Newydd. Mae'r rheilffordd yn cludo dros 30,000 o deithwyr yn flynyddol rhwng mis Hydref a mis Mehefin.[1]
Math | steam railroad |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Seland Newydd |
Cyfesurynnau | 37.2083°S 174.7856°E |
Hanes cangen Waiuku (Rheilffordd Seland Newydd)
golyguDechreuodd gwaith adeiladu yn Chwefror 1914, ond roedd ddifyg o weithwyr ac adnoddau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Gorffenwyd y lein rhwng Paerata a Patumahoe ym 1917. Agorodd gweddill y lein i Waiuku ym 1922. Roedd 2 drên nwyddau efo cerbydau ar gyfer teithwyr yn y ddau gyfeiriad yn ddyddiol, yn cysylltu â'r brif lein o Auckland i Wellington.
Yn y bôn, cariwyd da i'r peif lein, glo a nwyddau amaethyddol y ffordd arall.
Caewyd y lein i deithwyr ym 1948. Defnyddiwyd locomotifat stêm hyd at 1965, wedyn diesel, a chaewyd y lein efo trên arbennig i deithwyr ar 31 Rhagfyr 1967.[2]
Cangen Mission Bush
golyguSefydlwyd gwaith haearn a dur ym Mission Bush yn y 1960au; cryfhawyd y lein whrwng Paerata a Glenbrook, ac adeiladwyd lein newydd o Glenbrook i Mission Bush.[2]
Atgyfodiad
golyguPrynwyd locomotif stêm dosbarth W, rhif WW 480 a defnyddiwyd yr injan ar trenau arbennig ar y rheilffordd genedlaethol o 1969 ymlaen
Dechreuodd gwaith ar y lein yn Pukeoware ym 1970. Daith cymdeithas y rheilffordd yn ymddiriodolaeth elusennol ym mis Techwedd 1970.[3]
Cynigwyd prydles 5 mlynedd am dir y rheilffordd i'r ymddiriodolaeth, a gwerthiant iddynt am $6,000 os maent nhw wedi gwneud cynnydd digonal at greu rheilffordd. Prynwyd y cledrau ac adeiladau gorsafoedd Glenbrook a Patumahoe station buildings am $1,333.75. Symudwyd adeilad Patumahoe i Pukeoware ar 12 Gorffennaf 1971.
Cwblhawyd cysylltiad rhwng iard Glenbrook a'r hen gangen Waiuku ar 1 Rhagfyr 1972 i ganiatáu cyrhaeddiad locomotifau a cherbydau i'r rheilffordd. Cynhaliwyd diwrnod agored cyntaf yn Pukeoware yn Chwefror 1974. Defnyddiwyd locomotifae stêm yn ystod y fath achlysuron erbyn 1976. Agorwyd y rehilffordd yn swyddogol ym mis Hydref 1977 efo trenau dros penwythnosau..[4]
Y dyfodol
golyguCynlluniwyd estyniad ar ben Waiuku'r lein, hyd at warchodfa Tamakae..[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Gwefan y rheilffordd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-01-23. Cyrchwyd 2016-01-29.
- ↑ 2.0 2.1 "Tudalen hanes ar wefan y rheilffordd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-01-23. Cyrchwyd 2016-01-29.
- ↑ "Tudalen Cymdeithas y rheilffordd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-01-23. Cyrchwyd 2016-01-29.
- ↑ "Tudalen Ymddiriodolaeth y rheilffordd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-01-23. Cyrchwyd 2016-01-29.