Rheilffordd Llanelli a Mynydd Mawr

Mae’r Rheilffordd Llanelli a Mynydd Mawr yn rheilffordd dreftadaeth sydd eisiau ail-sefydlu hen reilffordd o’r un enw. Ar hyn o bryd, mae gwaith yn mynd ymlaen ar hen safle Glofa Cynheidre i greu safle treftadaeth. Y gobaith hir dymor yw ail-agor y rheilffordd wreiddiol.

Hanes y rheilffordd wreiddiol golygu

Rheilffordd Llanelli a Mynydd Mawr
         
Rheilffordd Llanelli a Chwmni Dociau
         
Cross Hands
         
Y Tymbl
         
Cwmblawd
         
Cynheidre
         
Horeb
         
Felin Foel
         
Rheilffordd Porth Tywyn a Chwm Gwendraeth
         
Gwaith Dur Stradey
         
Gorsaf reilffordd Heol Buddug
         
Gorsaf reilffordd Llanelli a lein Gorllewin Cymru
         
Dociau Llanelli

Sefydlwyd Tramffordd Sir Gaerfyrddin gan ddeddf ym 1802, a dechreuodd gwasanaeth ym 1803, yn defnyddio 2 geffyl i symud glo i ddociau Llanelli a Gwaith Dur Stradey.

Caewyd y dramffordd ym 1844, ac ailagorwyd y lein ym 1885 o dan reolaeth y Rheilffordd Llanelli a Mynydd Mawr. Daeth y cwmni’n rhan o Reilffordd y Great Western yn 1922 ac yn hwyrach yn rhan o Reilffyrdd Prydeinig. Aeth glo o lofa Cynheidre hyd at 1989, pan caewyd y lofa. Roedd gan y rheilffordd ei locomotifau ei hun hyd at 1922, ond wedyn defnyddiwyd locomotifau’r Great Western.Trodd y rheilffordd i locomotifau yn nghyfnod Rheilffyrdd Prydeinig.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Tudalen hanes ar wefan y rheilffordd dreftadaeth". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-04-24. Cyrchwyd 2017-03-17.

Dolen allanol golygu