Rheilffordd Porth Tywyn a Chwm Gwendraeth

Roedd Rheilffordd Porth Tywyn a Chwm Gwendraeth yn 21 milltir o hyd; fe'i hagorwyd yn raddol rhwng 1859 a 1891 i gludo glo. Dilynodd y lein gamlas a adeiladwyd yn gynharach i gludo glo i lawr y cwm. Rhedodd y cwmni ddociau ym Mhorth Tywyn hefyd. Apwyntiwyd Cyrnol Holman Fred Stephens ym 1908 i ailadeiladu'r rheilffordd er mwyn cludo teithwyr yn gyfreithiol. Gadawodd y Cyrnol ym 1913.[1]

Gadawodd y rheilffordd prif lein De Cymru yn ymyl Llanelli, ond dilynodd yr un cwrs trwy orsafoedd Porth Tywyn a Phen-bre cyn troi i fyny'r cwm at Arhosfa Craiglon, Pinged, Ffordd Trimsaran, Pont-iets, Pont-henri a glofa Cwm Mawr. Aeth lein arall o Ffordd Trimsaran i Gydweli[1].

Hanes golygu

Daeth y rheilffordd yn rhan o Reilffordd Great Western ym 1922 a'r Rheilffordd Brydeinig ym 1948. Dioddefodd y lein lifogydd yn aml ac roedd pontydd isel a throadau llym, felly roedd hi'n anodd gweithredu.[1]. Caewyd y lein i deithwyr ym 1953[2] ac yn gyfan gwbl ym 1996.[3]

Ffurfiwyd Cymdeithas Reilffordd Gwendraeth yn 2002 i gefnogi prosiect i ailagor y rheilffordd i deithwyr.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Tudalen Porth Tywyn a Chwm Gwendraeth ar wefan Cyrnol Stephens
  2. Gwefan archiveswales
  3. Gwefan chasewaterstuff
  4. "Gwefan britishrailways.tv". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-08-28. Cyrchwyd 2015-08-28.