Rheilffordd Prairie Dog Central

Mae Rheilffordd Prairie Dog Central yn rheilffordd dreftadaeth sy’n mynd o Gyffordd Inkster, ger Winnipeg, Manitoba i Grosse Isle ac weithiau ymlaen at Warren. Agorwyd y rheilffordd ar 11 Gorffennaf, 1970[1]

Rheilffordd Prairie Dog Central
Enghraifft o'r canlynolllinell rheilffordd Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1970 Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethCanada Edit this on Wikidata
RhanbarthManitoba Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.pdcrailway.com/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae trenau’n mynd bob dydd Sadwrn, dydd Sul (a dydd Llun yn ystod gwyliau banc) o fis Mai i Fedi. Trefnir adloniant yn Grosse Isle are gyfer teithwyr. Perchnogion y rheilffordd yw’r Vintage Locomotive Society Inc sy’n elusen.[2]

Symudwyd adeiladau’r orsaf o orsaf reilffordd St James, Winnipeg ym 1999.[3]

Locomotifau golygu

 
Locomotif Rhif 3

Mae Locomotif rhif 3 yn locomotif stêm 4-4-0, adeiladwyd gan Gwmni Dübs yn Glasgow ym 1882 ar gyfer Rheilffordd Canadian Pacific. Gwerthwyd rhif 3 i ddinas Winnipeg, a defnyddiwyd i wasanaethu gorsafoedd pŵer hydro-electrig ar lannau Afon Winnipeg hyd at 1961.[4]

Mae hefyd 2 locomotif diesel EMD GP9, adeiladwyd gan General Motors[5].

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan traingeek.ca
  2. Gwefan traingeek.ca
  3. Gwefan Cymdeithas Hanesyddol Manitoba
  4. Gwefan Cymdeithas Hanesyddol Manitoba
  5. "Gwefan tourismwinnipeg.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-12-16. Cyrchwyd 2019-12-16.

Dolen allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Manitoba. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.