Rheilffordd Santa Fe Southern

Mae Rheilffordd Santa Fe Southern yn rheilffordd fer yn New Mexico, Yr Unol Daleithiau. Yn ogystal â chario nwyddau, mae o wedi bod yn rheilffordd dreftadaeth yn achlysurol, yn cario teithwyr rhwng Lamy a Santa Fe, tua 18 milltir.[1]

Rheilffordd Santa Fe Southern
Delwedd:Unknown
Enghraifft o'r canlynolcwmni rheilffordd Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2019 Edit this on Wikidata
PerchennogGeorge R. R. Martin, Bill Banowsky Edit this on Wikidata
Map
PencadlysSanta Fe Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
RhanbarthSanta Fe County Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://skyrailway.com/history Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Locomotif y rheilffordd yn Santa Fe

Prynwyd cangen Lamy-Santa Fe y Rheilffordd Atchison, Topeka and Santa Fe gan ddynion busnes lleol, a dechreuodd gwasanaeth nwyddau ym 1992. Ychwanegwyd y wasanaeth i deithwyr yn hwyrach ymlaen.[2] Prynwyd y rheilffordd ar 8 Hydref 2010 gan STI-Global, Cyf., cwmni o Awstralia er mwyn profi eu systemau diogelwch.[3]

Roedd rhaid i’r cwmni adael ei phencadlys yn Nepo Santa Fe er mwyn creu canolfan ymwelwyr ar gyfer teithwyr New Mexico Rail Runner[4]

Trafferthion cyllidol

golygu

Cariodd y rheilffordd 401 wagonau o nwyddau yn 2004, a 25,907 teithiwr yn 2007, ond erbyn 2009, dim ond 25 wagon a 12,208 teithiwr[5]. Newidiwyd ei threfn yn 2 drên cymysg yn wythnosol.[6]. Ar 23 Mai 23, 2013, datganodd cadeirydd y rheilffordd bod o wedi cael gwared o’r gweithwyr llawn amser i gyd, a llawer o’i gweithwyr tymhorol. Nid oedd trenau yn 2013.[7]

Ar 24 Ebrill, 2014, datganwyd bod y rheilffordd a’r Las Vegas Railway Express wedi cytuno i redeg trenau ar gyfer twristiaid dros yr haf. Buasai LVRE yn rhoi cyllid i adfer y rheilffordd, a buasai’r Santa Fe Southern yn rhedeg y trenau.[8] Ar 26 Medi 2014 penderfynwyd LVRE i roi stop i’r wasanaeth ar 29 Medi.[9] Terfynwyd trenau nwyddau hefyd, ond rhedwyd trenau siarter preifat.

Ar 18 Mai 18 2020 prynwyd y rheilffordd gan Bill Banowsky, George R. R. Martin a Catherine Oppenheimer.[10]

Locomotifau a cherbydau

golygu

Mae gan y rheilffordd sawl cerbyd o'r Rheilffordd Canolog New Jersey. Mae ganddi 2 locomotif diesel, un EMD GP7 ac un EMD GP16, ail-adeiladwyd o GP7.[11] Gobeithiwyd ail-adeiladu locomotif stêm y Rheilffordd Atchison, Topeka a Santa Fe sydd ar hyn o bryd ym Madrid, New Mexico.[12]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Cylchgrawn Trains (cyhoeddwyr Kalmbach), Gorffennaf 2010
  2. Cylchgrawn ‘Trains’, gorffennaf 2010; cyhoeddwyr Kalmbach
  3. Gwefan Cylchgrawn Trains, Hydref 2010
  4. Gwefan Cylchgrawn Trains, Mai 2011
  5. Cylchgrawn ‘Trains’
  6. "Gwefan y rheilffordd, 15 Hydref 2010". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-08-16. Cyrchwyd 2021-10-03.
  7. Gwefan y Santa Fe New Mexican
  8. Gwefan trn.trains.com
  9. Gwefan bizjournals.com, cyhoeddwr Albuquerque Business First, 30 Medi 2014
  10. Gwefan Albuquerque Journal, 18 Mai 2020
  11. [http:www.trains.com Gwefan cylchgrawn Trains]
  12. Gwefan facebook

Dolenni allanol

golygu