Santa Fe, neu Santa Fé, (Sbaeneg, "Ffydd Sanctaidd"; ffurf lawn: La Villa Real de la Santa Fé de San Francisco de Asís, Cymraeg: Dinas Frenhinol Ffydd Sanctaidd St. Ffransis o Assisi) yw prifddinas talaith New Mexico yn yr Unol Daleithiau. Mae'n gorwedd ar lan Afon Santa Fe.

Santa Fe
Mathdinas yn yr Unol Daleithiau, prifddinas talaith neu ardal o fewn UDA, tref ddinesig Edit this on Wikidata
Poblogaeth87,505 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1610 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethAlan Webber Edit this on Wikidata
Cylchfa amserCylchfa Amser y Mynyddoedd Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Sorrento, Bukhara, Los Palacios y Villafranca, Holguín, Icheon, Livingstone, Parral, San Miguel de Allende, Santa Fe, Tsuyama-shi, Zhangjiajie Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSanta Fe County Edit this on Wikidata
GwladBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Arwynebedd135.579134 km², 119.253114 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr2,194 ±1 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaSanta Fe County Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau35.67°N 105.97°W Edit this on Wikidata
Cod post87500–87599, 87500, 87502, 87506, 87510, 87512, 87514, 87517, 87519, 87522, 87525, 87527, 87530, 87532, 87535, 87538, 87540, 87542, 87545, 87546, 87549, 87551, 87554, 87555, 87559, 87563, 87566, 87570, 87573, 87577, 87582, 87586, 87589, 87592, 87596 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Alcalde-Mayor of Santa Fe Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethAlan Webber Edit this on Wikidata
Map
Sefydlwydwyd ganPedro de Peralta Edit this on Wikidata

Santa Fe yw dinas fwyaf a chanolfan sirol Swydd Santa Fe. Roedd ganddi boblogaeth o 62,543 yn ôl cyfrifiad 2000, ond erbyn 2005 amcangyfrifwyd poblogaeth o 70,631, gan ei gwneud yn ddinas drydedd fwyaf New Mexico. Mae'r ddinas yn gorwedd bron i 7,000 troedfedd (2,132 meter) uwchben lefel y môr, mewn cymhariaeth ag Albuquerque gyfagos, dinas fwyaf y dalaith, ar 5,352 troedfedd (1,631 m). Santa Fe yw'r brifddinas daleithiol uchaf yn yr Unol Daleithiau felly.

Llenyddiaeth golygu

Ymwelodd y bardd T. H. Parry-Williams â Santa Fe yn 1935. Yr hyn a'i atynai yn bennaf oedd yr enw:

'R wy'n mynd yn rhywle, heb wybod ym mh'le,
Ond mae enw'n fy nghlustiau — Santa Fe,
A hwnnw'n dal i dapio o hyd
Y dagrau sydd gennyf i enwau'r byd,—
Yr enwau persain ar fan a lle:
R wy'n wylo gan enw — Santa Fe.'

(Synfyfyrion, 1937)

Gefeilldrefi Santa Fe golygu

Gwlad Dinas
  Uzbekistan Bukhara
  Mecsico Parral
  Mecsico Zacatecas
  Sbaen Santa Fe
  Yr Eidal Sorrento
  Japan Tsuyama
  India West Kanpur
  Ciwba Holguín
  Colombia Bogotá

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am New Mexico. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.