Rheilffordd Swydd Gaerloyw Swydd Warwig
Hanes
golyguPasiwyd deddf ym 1899 ar ran Rheilffordd y Great Western yn caniatáu adeiladu rheilffordd rhwng Honeybourne a Cheltenham, a dwblu'r lein rhwng Honeybourne a Stratford-upon-Avon. Dechreuodd gwaith adeiladu ym 1902, ac agorwyd y cyfan erbyn 1906[1]. Agorwyd gorsaf reilffordd Cae Ras Cheltenham ym 1912, pan gynhaliwyd y ras Cwpan Aur Cheltenham am y tro cyntaf.
Caewyd gorsaf reilffordd Cae Ras Cheltenham ym 1968; defnyddiwyd yn achlysurol rhwng 1971 a 1976, ac erbyn y 70au, defnyddiwyd y lein gyfan dim ond fel lein wyriad. Dechreuwyd codi traciau yng Ngorffennaf 1979' [2]
Adfywiad
golyguFfurfiwyd Cymdeithas Rheilffordd Swydd Gaerloyw Swydd Warwig ar 18 Awst 1976, yn gobeithio perswadio Rheilffyrdd Prydain i gadw'r lein ar agor. Daeth y gymdeithas yn ymddiriodolaeth ar 28 Hydref 1977, yn anelu at warchod y rheilffordd. Ym 1981, llogwyd rhan o iard Toddington i gadw cerbydau ac ailosodwyd traciau.. Rhoddwyd Gorchymyn Rheilffordd Ysgafn gan yr Adran Trafnidiaeth, yn caniatáu ailosod y cledrau rhwng Broadway a Cheltenham, a phrynwyd tir yr hen reilffordd a rhai o'r adeiladau sydd wedi goroesi ym 1984. Agorwyd y lein ar 22 Ebrill gan Nicholas Ridley a dechreuodd gwasanaeth ar 700 llath o drac[3]. Cyrhaeddodd y lein Didbrook ym 1985, Abaty Hayles ym 1986 a Winchcombe ym 1987. Ym 1990, ailagorwyd y lein hyd at Gretton; ym 1997 hyd at Gotherington, ac yn 2000, hyd at Gae Ras Cheltenham. Dechreuodd gwasanaeth i Cheltenham ar gyfer teithwyr yn 2003. Ailosodwyd traciau o Toddington i'r gogledd, yn mynd at Broadway, yn 2005.[2]
Locomotifau Stêm
golyguGweithredol
golyguRhif ac enw | Disgrifiad | Statws | Lifrai | Llun |
---|---|---|---|---|
2807 | Dosbarth 2800 2-8-0 GWR | Adeiladwyd ym 1905. Gweithredol. Tocyn Boeler hyd at 2020. | Gwyrdd GWR | |
8274 | Dosbarth 8F 2-8-0 LMS | Adeiladwyd ym 1940. Daeth yn ôl o Dwrci yn y 1980au. Tocyn boeler hyd at 2019. | Du LMS | |
5542 | Dosbarth 4575 GWR 2-6-2T | Adeiladwyd ym 1928. Gweithredol. Tocyn boeler hyd at 2022.. | Gwyrdd GWR | |
7820 Dinmore Manor | Dosbarth Manor 4-6-0 GWR | Adeiladwyd ym 1950. Gweithredol. Tocyn boeler hyd at 2023 | Du BR efo bathodyn cynnar | |
4270 | Dosbarth 4200 GWR 2-8-0T | Adeiladwyd ym 1919. Adnewyddwyd yn ddiweddar.[4] | Gwyrdd GWR |
Adnewyddir neu drwsir
golyguRhif ac enw | Disgrifiad | Statws | Lifrai | Llun |
---|---|---|---|---|
35006 "Peninsular & Oriental S.N. Co." | Dosbarth Merchant Navy 4-6-2 SR | Adeiladwyd yn 1941. Adnewyddir, Gobeithio bydd yn weithredol yn hwyr yn 2014 neu'n gynnar yn 2015. | ||
44027 | Dosbarth 4F 0-6-0 Fowler LMS | Adeiladwyd ym 1924. Adnewyddir. | Du BR | |
6959 Foremarke Hall | Dosbarth Hall wedu addasu; 4-6-0 GWR | Adeiladwyd ym 1949. Datgymalir cyn mynd i Weithdy Tyseley ar gyfer atgywyriad 10 mlynedd. | Gwyrdd BR efo bathodyn cynnar. | |
2874 | Dosbarth 2800 2-8-0 GWR | Adeiladwyd 1918. Atgyweirir. | ||
76077 | Dosbarth 4MT 2-6-0 BR | Adeiladwyd 1956. Atgyweirir. | Du BR efo bathodyn diweddar | |
John | 0-4-0ST Peckett | Adeiladwyd 1939. Daeth o lofa Thorsby a gweithiodd ar y rheilffordd yn y dyddiau cynnar. Bydd yn arddangos yn Toddington.[6] |
Locomotifau ac unedau diesel
golyguGweithredol
golyguRhif ac enw | Disgrifiad | Statws | Lifrai | Llun |
---|---|---|---|---|
D2182 | Dosbarth 03 0-6-0 BR | Gweithredol | Gwyrdd BR green efo bathodyn hwyr | |
11230 | Drewry 0-6-0 | Gweithdredol | Du BR efo bathodyn cynnar | |
08484 | Dosbarth 08 0-6-0 BR | Gweithredol | BR blue | |
D8137 | BR Bo-Bo Class 20 | Gweithredol | Gwyrdd BR efo paneli rhybudd melyn | |
24081 | Dosbarth 24 Bo-Bo BR | Gweithredol | Glas BR efo pennau melyn llawn | |
D5343 | Dosbarth 26 Bo-Bo BR | Gweithredol | Glas BR efo pennau melyn llawn | |
37215 | BR Co-Co Class 37 | Gweithredol | Glas BR efo pennau melyn llawn | |
45149 | Dosbarth 45 1-Co-Co-1 BR | Gweithredol | Côt isaf | |
47376 "Freightliner 1995" | Dosbarth 47 Co-Co BR | Gweithredol | llwyd Freightliner | |
73129 "City of Winchester" | Dosbarth 73 Bo-Bo BR | Gweithredol | Glas BR efo paneli rhybudd melyn | |
W51405, W59510, W51363 | Dosbarth 117 BR | Gweithredol | Gwyrdd BR BR efo paneli rhybudd melyn | |
W55003 | Dosbarth 122 BR | Gweithredol | Gwyrdd BR BR efo paneli rhybudd melyn |
Rheilffordd Swydd Gaerloyw Swydd Warwig | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Gwefan Rheilffyrdd Treftadaeth Prydain". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-11-05. Cyrchwyd 2014-06-07.
- ↑ 2.0 2.1 "Tudalen hanes ar wefan y rheilffordd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-08-02. Cyrchwyd 2014-06-07.
- ↑ "Tudalen hanes ar wefan Rheilffyrdd Treftadaeth Prydain". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-11-05. Cyrchwyd 2014-06-07.
- ↑ "Tudalen newyddion ar wefan y rheilffordd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-05-19. Cyrchwyd 2014-06-07.
- ↑ "tudalen am locomotifau gweithredol ar wefan y rheilffordd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-07-01. Cyrchwyd 2014-06-07.
- ↑ "Tudalen 'John' ar wefan y rheilffordd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-07-01. Cyrchwyd 2014-06-07.