Rheilffordd danddaearol Glasgow

Rheilffordd metro Glasgow

Mae Rheilffordd danddaearol Glasgow (Gaeleg: Fo-thalamh Ghlaschu; Sgoteg: Glesga Subway; Saesneg: Glasgow Subway) yn rheilffordd yn Glasgow, Yr Alban. Agorwyd y rheilffordd ar 14 Rhagfyr 1896,[1] un o reilffyrdd tanddaearol hynal y byd. Mae'r rheilffordd yn ffurfio cylch ynghanol y ddinas, ac mae ei drenau'n mynd yn y 2 gyfeiriad. Mae 15 o orsafoedd, ac mae’r cylch yn cymryd 24 munud.[2] Lled y traciau yw 1219 mm (4 troedfedd) ac mae hyd y cylch 15.2 cilometr (9.5 milltir).

Rheilffordd danddaearol Glasgow
Mathtrafnidiaeth gyflym awtomataidd Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol14 Rhagfyr 1896 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 14 Rhagfyr 1896 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadGlasgow Edit this on Wikidata
SirDinas Glasgow Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Cyfesurynnau55.8616°N 4.2832°W Edit this on Wikidata
Nifer y teithwyr12,700,000 Edit this on Wikidata
Rheolir ganStrathclyde Partnership for Transport Edit this on Wikidata
Map

Adeiladwyd y rheilffordd dros gyfnod o pum mlynedd, yn costio £1.5 miliwn. Roedd gan ddim ond Llundain a Budapest reilffyrdd tanddaearol cyn 1896. Caewyd y rheilffordd ar y diwrnod cyntaf oherwydd damwain; ail-agorwyd y rheilffordd ym mis Ionawr 1897. Defnyddiwyd y rheilffordd gan dros 9 miliwn o deithwyr yn ystod ei blwyddyn gyntaf.[1]

Tynnwyd ei cherbydau gan gablen hyd at 1935 pan ddaeth y rheilffordd yn un drydanol.

Dyma fap y rheilffordd yn 1965. Erbyn hyn, Mae 'Merkland Street' wedi dod yn 'Kelvinhall', a 'Copland Road' yn 'Ibrox':

 
Map y rheilffordd yn 1965. Erbyn hyn, Mae 'Merkland Street' wedi dod yn 'Kelvinhall', a 'Copland Road' yn 'Ibrox'

Gorsafoedd[3]

golygu

Heol y Bont

golygu

Agos at Academi 02, Citizen’s Theatre

 
Gorsaf reilffordd Heol y Bont

Heol Buchanan

golygu

Agos at orsaf reilffordd Heol y Frenhines, Gorsaf bws Buchanan, Galeriau Buchanan.

Cessnock

golygu

Agos at Ganolfan Gwyddoniaeth Glasgow, IMAX Glasgow, Canolfan SEC.

 
Gorsaf danddaearol Cessnock

Cowcaddens

golygu

Agos at Ysgol y Celfydyddau Glasgow,, Theatr Ffilm Glasgow, Plas Tenement.

 
Gorsaf danddaearol Cowcaddens

Agos at Ysbytai Prifysgol Brenhines Elizabeth, Hen Eglwys Plwyf Govan.

Hillhead

golygu

Agos at erddi Botaneg Glasgow, Prifysgol Glasgow.

Agos at Stadiwm Ibrox, Canolfan Dringo Glasgow, Parc Bellahouston.

Kelvinbridge

golygu

Agos at Parc Kelvingrove, Clwb Comedi The Stand.

Kelvinhall

golygu

Agos at Arena Rhwngwladol Kelvinhall, Amgueddfa Kelvingrove.

Parc Kinning

golygu

Partick

golygu

Agos at orsaf reilffordd Partick, Gorsaf Bws Partick, Amgueddfa Riverside.

 
Partick

Heol Shields

golygu

Agos at Amgueddfa Ysgol Heol Scotland.

St. Enoch

golygu

Agos at orsaf reilffordd Canolog , Canolfan Sant Enoch.

 
Gorsaf danddaearol St Enoch

St. George’s Cross

golygu

Agos at Lyfrgell Mitchell.

Heol West

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "Gwefan 'The Scotsman'". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-07-03. Cyrchwyd 2019-07-03.
  2. Gwefan SPT
  3. Gwefan SPT

Dolen allanol

golygu