Rheilffordd yn rhedeg ar un gledren yw Rheilffordd ungledrog. Weithiau maent yn sefyll ar bileri uwchben lefel y tir. Maent yn gyffredin ar meysydd awyr ac ym mharciau adloniant megis Disneyland.

HanesGolygu

Cafodd Ivan Elmanov y syniad gwreiddiol yn Rwsia ym 1820, ond gyda olwynion ar y cledt yn hytrach nac ar gerbydau. Cafodd Henry Palmer patent ar ei syniad,ac adeiladwyd rheilffordd ungledrog yn Nociau Deptford, Llundain.[1] Yr un gyntaf i gludo teithwyr, yn ystod ei seremoni agoriadol, oedd Rheilffordd Cheshunt ar 25 Mehefin 1825. Prif bwrpas y reilffordd oedd cludo brics.[2]


CyfeiriadauGolygu


Gweler hefyd Rhestr o reilffyrdd ungledrog