Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru
Rhedodd Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru (North Wales Narrow Gauge Railway Co.) o Ddinas, (Llanwnda) i Ryd-ddu neu, a defnyddio enw'r cwmni ar yr orsaf yno, South Snowdon. Agorwyd y lein ym 1877, ynghyd â changen a redodd o Gyffordd Tryfan trwy Rostryfan i orsaf Bryngwyn, o ba le ledodd rhwydwaith o gledrau a arweiniai at nifer o chwareli llechi.
Math o gyfrwng | llinell rheilffordd, cwmni rheilffordd |
---|---|
Olynydd | Welsh Highland Railway |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Rhanbarth | Cymru |
Ni fu'r busnes mor lewyrchus ag y gobeithiwyd ar y cychwyn, gyda llai o waith cludo llechi a mwynau, a dim ond nifer bach o deithwyr y tu allan i'r tymor ymwelwyr. Fe gaewyd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Fe ail-agorwyd y lein, ynghyd ag estyniad i Borthmadog dan yr enw Rheilffordd Ucheldir Cymru ym 1923, ond erbyn 1936 roedd hi wedi cau eto. Codwyd y cledrau, ond atgyfodwyd y lein gan Gwmni Rheilffordd Ffestiniog, gan ei hailagor ym 1996. Yr enw Cymraeg a arddelir bellach yw Rheilffordd Eryri neu, yn Saesneg, Welsh Highland Railway.