Rhes y Deml, Wrecsam
Lôn gul yng nghalon ganoloesol dinas Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, sy'n rhedeg yn gyfochrog â mynwent Eglwys San Silyn, yw Rhes y Deml (Saesneg: Temple Row).
Lleoliad
golyguMae Rhes y Deml yn un o nifer o strydoedd cefn â chymeriad canoloesol sy’n cysylltu mynwent Eglwys San Silyn a’r Stryt Fawr ag Allt y Dref yng nghanol Wrecsam.[1]
Mae'r lôn yn mynd o'r gorllewin i'r dwyrain o Gamfa'r Cŵn i Stryt Yorke a gellir ei chyrraedd o'r Stryt Fawr hefyd drwy Stryt yr Eglwys ac Arcêd Owrtyn.
Hanes
golyguMae'r enw "Rhes y Deml" yn un o nifer o enwau strydoedd eglwysig yng nghanol Wrecsam,[2] gyda Stryt yr Eglwys, Stryt yr Abad, Stryt y Priordy a College Street (yr enw Saesneg ar Gamfa'r Cŵn). Yn y gorffennol, rhannwyd Wrecsam rhwng Wrexham Abbot, eiddo'r Eglwys, a Wrexham Regis, eiddo'r Goron.[3]
Lluniau
golygu-
Rhes y Deml tuag at Stryt Yorke
-
Arwydd dwyieithog ar Res y Deml
-
Gatiau mynwent Eglwys San Silyn o Res y Deml
-
Rhes y Deml – yr olygfa tuag at Stryt yr Eglwys
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Cynllun Asesu a Rheoli Nodweddion Ardal Gadwraeth Canol Tref Wrecsam" (PDF). Wrexham.gov.uk. Cyrchwyd 16 June 2022.
- ↑ Seal, Bobby. "Abbot and Regis: a tale of two townships". Psychogeographic Review. Cyrchwyd 16 June 2022.
- ↑ "Map of the town of Wrexham in the townships of Wrexham Abbot and Wrexham Regis". Casgliad y Werin Cymru. Cyrchwyd 16 June 2022.